Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu ailddatblygu hen safle Tŷ Merthyr – safle gwag yn Butetown. Mae’r safle wedi’i leoli rhwng Stryd James ac Ysgol Gynradd Mount Stuart ac mae wedi bod yn adfail ers blynyddoedd lawer.
Rydym wedi nodi angen am gartrefi mwy o faint i deuluoedd, sy’n cefnogi pobl o bob oed a chefndir i fyw bywydau annibynnol. Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r angen tai hwn a lleihau’r pwysau presennol sy’n cael eu hwynebu gan lawer o deuluoedd sydd mewn cartrefi gorlawn ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn archwilio’r posibilrwydd i ddatblygu model tai a all helpu i gefnogi teuluoedd mwy o faint i fyw gyda’i gilydd ac sydd hefyd o fudd i sawl cenhedlaeth. Rydyn ni’n galw’r math hwn o dai yn ‘byw aml-genhedlaeth’.
Mae’r safle’n cael ei ystyried fel datblygiad defnydd cymysg ar gyfer 47 annedd fforddiadwy, wedi’u trefnu rhwng dau a chwe llawr yn ogystal â 470m2 o ofod masnachol ar y llawr gwaelod, gan gynnig lleoliad ar gyfer cymuned aml-genhedlaeth gyd-gefnogol yng nghanol Butetown.
Fe’i cynlluniwyd fel man lle gall pobl o wahanol oedrannau a chefndiroedd fyw gyda’i gilydd mewn tai o ansawdd uchel, gan ennill gwell ymdeimlad o les, annibyniaeth, gyda chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chymdeithasu gyda’i gilydd.
Mae rhan helaeth o’r adeilad wedi’i ddylunio gan ddefnyddio model tai Byw yn y Gymuned y Cyngor sydd wedi’i deilwra ar gyfer pobl hŷn gan sicrhau bod llety wedi’i gynllunio i fod yn ‘fwy hygyrch’, gan wella hygyrchedd i breswylwyr ag anghenion symudedd a synhwyraidd a lleihau’r angen am addasiadau yn y dyfodol. Tra bod cyfran o’r unedau newydd wedi’u cynllunio’n ofalus ar gyfer byw aml-genhedlaeth, sy’n golygu bod mwy nag un genhedlaeth o’r un aelwyd yn byw’n gyfforddus o dan yr un to. Mae hyn yn golygu cartrefi sydd wedi’u cynllunio i fod yn hyblyg i ragweld gwahanol gyfansoddiadau aelwydydd dros amser gan ddarparu lleoedd ar gyfer preifatrwydd, annibyniaeth a rhyngweithio cymdeithasol.
Mae nifer o fannau cymunedol wedi’u hymgorffori yn nyluniad yr adeilad i ddarparu ar gyfer gweithgareddau gwahanol a chefnogi perthnasau preswyl a chymunedol – gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol rhwng gwahanol genedlaethau sy’n byw yn yr adeilad trwy ardd breswyl, lolfa breswyl a theras ar y to a nifer o fannau ymneilltuo anffurfiol. Mae cyfleoedd ar gyfer defnydd cymunedol a masnachol hefyd i’w cael ar y llawr gwaelod – gan ychwanegu at gymeriad bywiog yr ardal.
Bydd y prosiect yn datblygu pedwar cam allweddol (gweler isod). Ar hyn o bryd rydym ar Gam 3:
Cam 1 Gwaith arolygu a chasglu gwybodaeth: Mae’r cam hwn yn cynnwys cynnal yr holl waith arolygu angenrheidiol ar y safle, fel coed, ecoleg ac arolygon cyflwr safle. Maent yn dweud popeth y mae angen i ni ei wybod am y safle i helpu i lunio dyluniad y datblygiad arfaethedig.
Cam 2 Dylunio Cysyniad: Mae’r cam hwn yn cynnwys defnyddio’r gwaith arolygu i nodi’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau ar y safle a chynnig rhai syniadau cychwynnol a dyluniadau cynnar ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Byddwn yn cael adborth ar y syniadau hyn oddi wrth amrywiaeth o arbenigwyr technegol a’r gymuned er mwyn gallu datblygu’r opsiwn a ffefrir ar gyfer y dyluniad.
Cam 3 Opsiwn a Ffefrir: mae’r cam hwn yn cynnwys datblygu’r opsiwn a ffefrir yn fanylach, yn barod ar gyfer cais cynllunio. Bydd y cam hwn yn cynnwys Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill.
Cam 4 Cais Cynllunio: Yn y cam hwn byddwn yn cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Bydd y gymuned a rhanddeiliaid eraill yn cael cyfle i roi sylwadau pellach ar y cynigion bryd hynny.
Cyn cyflwyno’r cais cynllunio, rydym yn cynnal ymarfer Ymgynghori Cyn Cyflwyno Cais statudol mewn perthynas â’r cais, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, er mwyn caniatáu i bartïon â diddordeb wneud sylwadau.
Gellir gweld copïau o’r holl gynlluniau, darluniau ac adroddiadau ar-lein yn Hen Dŷ Merthyr, Stryd James, Butetown – LRM Planning
Gallwch hefyd gysylltu â ni am y datblygiad ar unrhyw adeg drwy anfon eich sylwadau at: https://lrmplanning.com/enquiries/
Fel rhan o’r broses ymgysylltu, rydym yn cynnal digwyddiad arddangos cyhoeddus ddydd Mercher 16 Hydref rhwng 4pm a 7pm yn Hyb Ieuenctid Butetown, Heol Dumballs, Caerdydd, CF10 5FE wrth ymyl y safle datblygu. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb.
Yn dilyn cyfnod o 28 diwrnod, bydd y sylwadau a dderbynnir yn cael eu hadolygu a’u hystyried a byddwn yn ymateb iddynt ar ffurf Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio, yn hytrach na thrwy ymatebion unigol. Yna bydd yr Adroddiad yn cael ei gyflwyno ynghyd â’r cais cynllunio i adran Cynllunio Cyngor Caerdydd i’w ystyried yn fuan wedi hynny a bydd ar gael yn gyhoeddus gan yr Awdurdod Lleol.
Bydd cais cynllunio llawn yn cael ei gyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn hon (2024).
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y cynllun hwn, cysylltwch â ni.