Channel View Footbridge CGI

Mae Cyngor Caerdydd yn datblygu cynlluniau cyffrous ar gyfer pont newydd i gerddwyr a beicwyr dros Afon Taf. Yn ddiweddar rydym wedi penodi tîm dylunio dan arweiniad Arcadis Consulting gyda Moxon’s Architects i ddechrau dylunio’r bont a byddem wrth ein boddau’n clywed eich barn.

Bydd y bont newydd yn cysylltu ystâd Trem y Môr, y Marl a’r ardal o amgylch Jim Driscoll Way ar lan orllewinol yr afon â Pharc Hamadryad ar y lan ddwyreiniol. Mae’r bont yn rhan bwysig o gynlluniau ehangach i adfywio ardal Trem y Môr. Byddwn yn darparu:

  • Cysylltiad pwysig i gymunedau ar ddwy ochr yr afon, gan gysylltu ag ysgolion, parciau, cyfleusterau hamdden a
    mannau agored.
  • Dolen bwysig o fewn y rhwydwaith ehangach o lwybrau ar gyfer cerdded a beicio, gan gysylltu â Llwybr y Bae a Llwybr Trelái.
  • Dewis arall mawr ei angen yn lle’r A4232 Ffordd Gyswllt Bae Caerdydd, sy’n brysur iawn, a’r A4119 Heol Clarence ar gyfer cerddwyr a beicwyr, gan gynnwys plant ysgol.

Rydyn ni’n dylunio’r bont fel ei bod hi’n:

  • Addas i gerddwyr a beicwyr
  • Cyfleus i bobl o bob oedran a gallu
  • Sensitif i’r amgylchedd lleol ac anghenion defnyddwyr yr afon
  • Cynaliadwy yn ei dyluniad
  • Ymarferol, o ran gwaith adeiladu a chynnal a chadw parhau
  • Cael ei hintegreiddio i’r glannau, y parciau a’r rhwydwaith llwybrau ar y ddwy ochr.

Statws Presennol

Bydd y prosiect yn symud ymlaen yn y pedwar cam allweddol canlynol (gweler isod).

Cam 1 Gwaith Dylunio Cynnar

Mae’r cam hwn yn cynnwys cynnal yr holl waith arolygu angenrheidiol ar y safle, fel coed, ecoleg ac arolygon cyflwr safle.  Dechreuodd hyn yn gynnar yn 2022 a bydd yn parhau tan wanwyn 2023. Mae’n dweud popeth sydd angen i ni wybod am y safle i helpu i ddylunio’r bont arfaethedig. Rydym hefyd wedi cynnal nifer o weithdai rhwng adrannau’r cyngor i drafod gofynion cynnar ar gyfer y dyluniad.

Defnyddiwyd y wybodaeth hon i gynnig rhai syniadau cychwynnol a dyluniadau cynnar ar gyfer y bont. Byddwn yn cael adborth ar y syniadau hyn gan y gymuned, rhanddeiliaid ac amrywiaeth o arbenigwyr technegol er mwyn gallu datblygu’r dyluniad ymhellach.

Cam 2 – Adolygu Adborth yr Ymgynghoriad a Datblygu Dyluniad Manwl

Mae’r cam hwn yn cynnwys adeiladu ar waith dylunio cam 1. Byddwn yn adolygu adborth o’r ymgynghoriad ac yn ymgynghori ag arbenigwyr technegol i siapio dyluniad y bont arfaethedig ymhellach.

Cam 3 – Ymgynghoriad Cyhoeddus Terfynol cyn cyflwyno cais cynllunio

Erbyn hyn bydd gennym ddyluniad manwl sy’n agos iawn at sut bydd y bont yn edrych, a byddwn yn ymgynghori â’r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill unwaith eto i gael adborth. Byddwn yn adolygu’r adborth ymgynghori ac yn gwneud unrhyw newidiadau i’r dyluniad cyn iddo gael ei bennu ar gyfer y cais cynllunio.

Cam 4 – Cais Cynllunio:

Gobeithiwn allu cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig yng nghanol 2023, ar ôl i’r dyluniad manwl gael ei orffen.

Dweud eich dweud

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bont Arfaethedig i Gerddwyr a Beicwyr o’r Marl i Barc Hamadryad bellach ar gau.

Diolch o galon i bawb a ddaeth i’n digwyddiadau ymgynghori ac a gyfrannodd eu sylwadau i’r ymgynghoriad.

Unwaith y byddwn wedi adolygu’r holl ymatebion, byddwn yn cyhoeddi canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y dudalen hon.

Os oes gennych ragor o gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad