Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio ailddatblygu hen dafarn Wolf’s Castle (tafarn-dŷ) yn Llanisien, Caerdydd. Mae’r safle’n rhan o raglen ddatblygu gyffrous ac uchelgeisiol y Cyngor, a fydd yn creu mwy na 4,000 o gartrefi newydd ledled Caerdydd.
Mae hen safle tafarn Wolf’s Castle mewn lleoliad cynaliadwy, ger siopau, gwasanaethau, cyflogaeth a pharciau, gan ei wneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer tai cyngor newydd.
Gwybodaeth Prosiect
Bydd y datblygiad arfaethedig yn darparu amrywiaeth o gartrefi cyngor newydd ar gyfer cymuned gynhwysol sydd wedi’u lleoli mewn tirwedd werdd, lle gall trigolion gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd siopau, ysgolion a pharciau lleol.
Bydd y datblygiad newydd yn darparu cartrefi cyngor deniadol sy’n effeithlon o ran ynni ac sydd wedi’u cynllunio i wneud y gorau o bob gofod defnyddiadwy gan greu ystafelloedd golau, eang, wrth fodloni anghenion anodd bywyd teuluol.
Bydd cartrefi wedi’u cynllunio i fod yn hawdd byw ynddynt ac yn effeithlon i’w rhedeg, a bydd ganddynt y potensial i addasu i amgylchiadau newydd yn ymwneud ag anghenion teuluol modern, gyda gerddi preifat a mannau awyr agored, seilwaith gwefru cerbydau trydan a storio beiciau.
Ein nod yw llunio cynllun cyfoes ond lleol sy’n ymateb i siâp ac amlygrwydd y safle i greu diddordeb treflun, blaenau stryd cryf, gyda chartrefi wedi’u cyfeirio’n benodol er mwyn sicrhau’r golygfeydd a’r cysylltedd gorau posibl â’r dirwedd.
Bydd y datblygiad newydd yn talu gwrogaeth i’r gorffennol, tra’n adlewyrchu elfennau gorau Llanisien heddiw, gan greu datblygiad tai cynhwysol, modern a chynaliadwy.
Bydd y datblygiad yn darparu cartrefi fforddiadwy newydd a ddyluniwyd i fodloni safonau ynni-effeithlon uchel y Cyngor ar gael i bobl sydd ar restr aros Tai Cyngor eu rhentu.
Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys Systemau Draenio Dinesig Cynaliadwy (SDCau) a all gynnwys gerddi glaw, plannu coed a seilwaith gwyrdd arall sy’n sicrhau bod dŵr glaw yn draenio’n naturiol i’r ddaear. Mae hyn yn helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd, yn darparu lleoedd gwyrddach a mwy deniadol i fyw ynddynt, ac yn cynyddu bioamrywiaeth leol.
Mae gan y prosiect bedwar cam allweddol (gweler isod). Rydym yn gweithio ar gam 1 ar hyn o bryd:
Cam 1 – Gwaith arolygu a chasglu gwybodaeth (cam presennol):
Mae’r cam hwn yn cynnwys cynnal yr holl waith arolygu angenrheidiol ar y safle, fel arolygon coed, ecoleg a chyflwr safle. Maent yn dweud popeth sydd angen i ni ei wybod am y safle i helpu i lunio dyluniad y datblygiad arfaethedig. Dechreuodd y rhain yn 2024 a byddant yn parhau tan ddechrau 2025.
Cam 2 – Cyfleoedd a chyfyngiadau:
Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r gwaith arolygu i nodi’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau ar y safle a chynnig rhai syniadau cychwynnol a dyluniadau cynnar ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Byddwn yn cael adborth ar y syniadau hyn gan y gymuned ac amrywiaeth o arbenigwyr technegol, er mwyn gallu datblygu’r opsiwn a ffefrir ar gyfer y dyluniad. Byddwn yn anelu at gwblhau’r cam hwn yn hanner cyntaf 2025.
Cam 3 – Opsiwn a ffefrir:
Mae’r cam hwn yn cynnwys datblygu’r opsiwn a ffefrir yn fanylach, yn barod ar gyfer cais cynllunio. Bydd y cam hwn yn cynnwys Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (YCY) gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill. Mae hyn wedi ei drefnu ar gyfer 2025.
Cam 4 – Cais cynllunio:
Cyflwynir cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig yn haf 2025, er mwyn i’r gymuned a rhanddeiliaid eraill gael cyfle i wneud sylwadau pellach ar y cynigion.
Ar ôl i ni gwblhau syniadau cychwynnol a dyluniadau cynnar ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Byddwn yn cael adborth ar y syniadau hyn gan y gymuned ac amrywiaeth o arbenigwyr technegol, er mwyn gallu datblygu’r opsiwn a ffefrir ar gyfer y dyluniad. Byddwn yn rhoi gwybod i drigolion am y gweithgaredd hwn drwy lythyr at eich drws, i’r rhai sy’n byw gerllaw ac yn diweddaru’r wefan a’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod 2025.
Yn dilyn yr uchod, byddwn yn datblygu’r opsiwn a ffefrir yn fanylach, yn barod ar gyfer cais cynllunio. Mae’r cam hwn yn cynnwys Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (YCY) gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill. Byddwn yn rhoi gwybod i drigolion am y gweithgaredd hwn drwy lythyr at eich drws, i’r rhai sy’n byw gerllaw ac yn diweddaru’r wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.
Yn dilyn hynny, cyflwynir cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig, er mwyn i’r gymuned a rhanddeiliaid eraill gael cyfle i wneud sylwadau pellach ar y cynigion.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.