Datblygiad preswyl newydd cyffrous i bobl hŷn i’w helpu i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, gyda chyfleusterau cymunedol ar y llawr gwaelod yn darparu mannau ar gyfer cymdeithasu a chefnogaeth.
Bydd y datblygiad yn cynnwys 41 o gartrefi un a dwy ystafell wely hygyrch, mannau gweithgareddau, ystafell staff, ystafell feddygol a gardd gymunedol wedi’i thirlunio gyda chysylltiad gwydr â’r bloc tŵr Maelfa presennol.
Mae’r safle wedi’i leoli yng nghanol Llanedern gydag amwynderau lleol ar garreg drws. Mae hyb The Powerhouse o fewn pellter cerdded ac mae bysus Caerdydd yn gwasanaethu’r safle’n dda.
- Mae’r adeilad wedi’i ddylunio gyda dull ffabrig yn gyntaf i sicrhau ei fod yn rhagori ar y Rheoliadau Adeiladu presennol.
- Bydd pob eiddo yn elwa o wres dan y llawr a fydd yn sicrhau defnydd effeithlon o ynni ac yn dileu’r angen am reiddiaduron, gan ryddhau lle ar y waliau.
- Bydd gan y datblygiad hefyd faes parcio diogel gyda darpariaeth ar gyfer gwefru Cerbydau Trydan.
- Bydd System Draenio Cynaliadwy yn cael ei chynllunio’n rhan o’r cynllun i leihau effaith bosibl y datblygiad ar ddraenio dŵr wyneb yn yr ardal, gyda thirlunio o ansawdd uchel i helpu i hyrwyddo lles.
Statws Presennol
Rydym wedi profi tipyn o drafferth yn dilyn trafferthion y prif gontractwr a benodwyd a aeth i ddwylo’r gweinyddwyr ddiwedd mis Hydref yn anffodus. Ar hyn o bryd rydym yn gobeithio penodi rhywun arall gyda’r nod o ailddechrau gwaith ar y safle cyn gynted â phosibl, a fydd, yn ôl pob tebyg, yn digwydd yn nhymor yr hydref 2023 fan gynharaf.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.