Mae prosiect Byw yn y Gymuned Llaneirwg yn ailddatblygiad o’r hen Ganolfan Gymunedol Ieuenctid. Mae’r safle, sydd wedi’i leoli ar Heol Crucywel, yn rhan o Ganolfan Ardal Llaneirwg ac o fewn pellter cerdded i gyfleusterau siopa lleol a Hyb Llaneirwg.
Bydd y cynnig yn darparu llety byw’n annibynnol o ansawdd uchel sy’n darparu cartrefi eang modern i bobl hŷn er mwyn sicrhau y gall preswylwyr fyw bywyd llawn ac egnïol mewn lleoliad hygyrch.
Bydd y datblygiad yn darparu:
- 60 o fflatiau hunangynhwysol un a dwy ystafell wely.
- Cyfleusterau cymunedol ar y safle gan gynnwys man gwefru sgwter trydan, man storio beiciau, ystafelloedd gweithgareddau, lolfeydd i breswylwyr, ystafelloedd iechyd a gerddi cymunedol wedi’u tirlunio.
Statws Presennol
Mae’r prosiect cyfan yn dod yn ei flaen yn dda, gyda cherrig milltir allweddol yn cael eu bwrw ac adborth cadarnhaol. Mae gwaith seiliau a draenio bron wedi’i gwblhau ac mae’r gwaith wedi dechrau ar y ffrâm ddur. Rydym yn gobeithio y bydd y datblygiad newydd hwn yn barod i’w drosglwyddo i’r cyngor a thenantiaid yn symud i mewn erbyn hydref 2025.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.