Mae’r prosiect ar Croft Street ym Mhlasnewydd sy’n cynnwys dim ond tai fforddiadwy yn cael ei gyflawni drwy ein partneriaeth Cartrefi Caerdydd benigamp gyda Wates Residential.
Mae naw cartref cyngor newydd yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio system fodiwlaidd arloesol ar safle tir llwyd cyfyngedig iawn o fewn ardal breswyl hŷn yng Nghaerdydd. Mae defnyddio system fodiwlaidd yma yn ateb delfrydol er mwyn sicrhau bod y gwaith adeiladu’n tarfu cyn lleied â phosibl ar breswylwyr cyfagos a bydd hefyd yn lleihau’n sylweddol yr amser y byddwn ar y safle.
Caiff pob cartref modiwlaidd ei adeiladu mewn ffatri a’i ddanfon i’r safle wedyn mewn dwy ran; y llawr gwaelod a’r llawr uchaf a gaiff eu rhoi yn eu lle gan graen fydd ar gefn lori gludo a’u cysylltu ar y safle wedyn. Bydd 18 modiwl yn ffurfio’r 9 tŷ.
Mae adeiladu modiwlaidd yn galluogi i’r rhan fwyaf o’r gwaith gael ei gwblhau mewn ffatri. Mae hyn yn sicrhau prosesau rheoli ansawdd gwych, yn lleihau’r bwlch perfformiad rhwng dylunio ac adeiladu ac yn lleihau hyd y rhaglen adeiladu’n sylweddol o’i chymharu â rhaglen adeiladu draddodiadol. Mae hyn yn golygu bod ein cartrefi newydd yn barod yn gyflymach, sy’n golygu bod mwy o deuluoedd yn cael eu cartrefu’n gyflymach ac y gallwn leihau effaith ein gwaith adeiladu ar y preswylwyr cyfagos.
Mae’n arbennig o addas ar gyfer y safle cyfyngedig hwn sydd â lle cyfyngedig i wneud gwaith adeiladu a llafur, i’r gweithlu parcio eu cerbydau ac i storio deunyddiau.
Disgwylir i’r gwaith o osod yr 18 uned fodiwlaidd fydd yn ffurfio’r cartrefi newydd hyn gymryd dim ond pum diwrnod, gyda sawl wythnos arall i gwblhau’r gwaith cyn y bydd y cartrefi’n barod i’r meddianwyr newydd
Mae’r safle hwn a’r rhaglen waith wedi’u rheoli’n dda iawn i sicrhau y caiff buddion system fodiwlaidd eu gwireddu’n llawn – dechreuodd tîm bach o weithwyr waith ar sylfeini a chysylltiadau gwasanaeth y safle ar yr un pryd ag yr oedd yr unedau modiwlaidd yn cael eu hadeiladu yn y ffatri.
Mae hyn yn golygu bod y gwaith allanol wedi’i gwblhau yn barod i’r unedau modiwlaidd gael eu danfon i’r safle ac o fewn 4 wythnos i’r modiwlau gyrraedd gallwn drosglwyddo’r cartrefi wedi’u cwblhau.
Mae pob un o’r cartrefi yn cael eu hadeiladu bron yn unol â safonau Passivhaus, yn cydymffurfio â GAD ac mae modd eu datod yn llawn felly mewn egwyddor gellid eu symud i fannau eraill yn y dyfodol. Ond nid dyna’r bwriad yma – rydym yn rhagweld y bydd y cartrefi hyn yn rhan o’r gymuned am flynyddoedd lawer i ddod!
Mae’r Cynllun yn cynnwys naw cartref cyngor gyda 2 ystafell wely i’w rhentu’n gymdeithasol. Gerddi cefn preifat, lle i storio beiciau a biniau a gerddi blaen bach i gynnig clustogfa rhwng y cartrefi a’r palmant.
Mae’r cynllun yn ymgorffori strategaeth SDCau sy’n cydymffurfio â pholisi a seilwaith gwyrdd i sicrhau nad yw dŵr ffo stormydd yn cael effaith andwyol ar y systemau draeniau presennol.
Yn ogystal â’r costau rhedeg isel a ragwelir, bydd gosodiadau a gorffeniadau modern y cartrefi hyn yn creu lle gwych i’n tenantiaid fyw ynddo.
Mae’r cartrefi newydd wedi’u dylunio i sicrhau biliau ynni is i breswylwyr ac maent yn agos at safonau Passivhaus. Nid oes cyflenwad nwy gan y safle ac felly mae’n defnyddio lefelau uwch o insiwleiddio o fewn adeiladwaith yr adeiladau. Paneli rheiddiadur is-goch effeithlon iawn ar gyfer anghenion gwresogi, ynghyd ag aráe PV solar wedi’i osod ar bob to i helpu i wrthbwyso’r defnydd o drydan a’r angen i wresogi dŵr. Caiff pob cartref ei wella ymhellach gan eu hathreiddedd aer isel, y defnydd o ddyfeisiau adfer gwres a gwydr triphlyg.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.