Bydd cynllun Byw yn y Gymuned Stryd Bute yn cynnig llety addas i bobl dros 55 oed yn ward Butetown yng Nghaerdydd. Bydd y datblygiad newydd yn darparu cartref newydd i breswylwyr sy’n byw yn Nelson House yn dilyn penderfyniad y Cyngor i droi’r bloc fflatiau uchel yn llety i deuluoedd.
Mae’r safle dan sylw ar hen safle Brandon Tool Hire ar Stryd Bute ac o fewn pellter cerdded i Ganol y Ddinas a Chei’r Fôr-Forwyn, Bae Caerdydd.
Bydd y cynnig yn darparu llety byw yn y gymuned o ansawdd uchel a fydd yn helpu preswylwyr i gynnal eu hannibyniaeth yn hirach, yn rhoi’r hyblygrwydd i ddiwallu anghenion defnyddwyr mwy agored i niwed ac yn helpu i fynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol.
Bydd y datblygiad yn darparu:
- 45 o fflatiau hunangynhwysol un a dwy ystafell wely.
- Cyfleusterau cymunedol ar y safle gan gynnwys man gwefru a storio sgwteri trydan, man storio beiciau, ystafelloedd gweithgareddau, lolfa i breswylwyr, ystafell feddygol, ystafelloedd i westeion, ystafell golchi dillad a gerddi cymunedol wedi’u tirlunio.
- ‘Dim Nwy’ – byddwn yn defnyddio pympiau gwres o’r ddaear fel ffynhonnell ynni lân ac amgen i nwy ac yn gosod paneli PV i leihau’r galw am drydan. Bydd y datblygiad carbon isel yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd ac yn gostwng costau rhedeg i denantiaid.
- Darperir cyfleuster cymunedol yn yr adeilad a gaiff ei osod i grŵp lleol i’w ddefnyddio fel ei gyfleuster ei hun.
Statws Presennol
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y safle gyda slabiau llawr a thyllau turio ffynhonnell daear wedi’u cwblhau. Cychwyn ffrâm Concrit wedi’i Atgyfnerthu, ddechrau Mehefin 2024. Disgwylir i’r cynllun gael ei gwblhau yn haf 2025.
Mae clwb gymnasteg merched leol o’r enw Fantastic Gymnastics wedi cael ei ddewis fel ein grŵp cymunedol i gymryd y cyfleuster cymunedol yn yr adeilad ar brydles ar ôl ei adeiladu
A allaf gael fy ystyried ar gyfer cartref?
I gael eich ystyried, ewch i Tai ar-lein
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.