Mae Cyngor Caerdydd yn gofyn am eich barn ar y datblygiad tai arfaethedig yn hen salfe Clwb Cymdeithasol ac Athletau’r Tyllgoed, oddi ar Plasmawr Road.
Bydd yn cynnwys 13 o gartrefi cyngor ac un byngalo ar gyfer oedolion ag anawsterau dysgu a staff 24 awr y dydd i helpu preswylwyr i fyw’n annibynnol.
Dyma gyfle i chi ddweud wrthym beth yw eich barn ar y cynllun cyn i ni ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol fel cais cynllunio.
Bydd set lawn o gynlluniau ac adroddiadau am y datblygiad arfaethedig ar gael o ddechrau’r ymgynghoriad yn www.amityplanning.co.uk o ddydd Gwener 8 Tachwedd 2024.
Hoffem glywed eich barn, a dyma sut y gallwch gysylltu â ni:
E-bost: info@amityplanning.co.uk
Ffôn: 07498 915610
Fel rhan o’r broses ymgysylltu, rydym yn cynnal digwyddiad arddangos cyhoeddus ddydd Iau 28 Tachwedd, rhwng 2pm a 7pm yn Hyb y Tyllgoed, Rhodfa Doyle, Caerdydd, CF5 3HU wrth ymyl y safle datblygu. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno unrhyw sylwadau yw dydd Gwener 6 Rhagfyr 2024.
Bydd y cynllun yn uchelgeisiol ac o ansawdd uchel. Drwy ddylunio da rydym yn gobeithio darparu:
- Cymdogaeth ddeniadol a diogel ar gyfer byw a magu teulu.
- Cartrefi fforddiadwy newydd sy’n ynni-effeithlon, yn naturiol olau ac yn awyrog.
- Cartrefi wedi’u dylunio o amgylch teuluoedd modern, gyda gerddi preifat, seilwaith gwefru cerbydau trydan a lle storio beiciau.
- Coed a chysylltiadau gwyrdd newydd sy’n parchu cymeriad Parc y Tyllgoed.
- Llwybr gwell i gerddwyr drwy’r safle gan gysylltu Ferrier Road â Plasmawr Road.
Bydd y datblygiad newydd yn darparu cartrefi teulu fforddiadwy newydd a ddyluniwyd i fodloni safonau ynni-effeithlon uchel y Cyngor. Byddant ar gael i’w rhentu i bobl ar y rhestr aros Tai Cyngor a byddant yn cynnwys cartrefi 2, 3 a 4 ystafell wely.
Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys byngalo i oedolion sydd ag anawsterau dysgu. Bydd hwn yn cael ei staffio 24 awr y dydd i helpu preswylwyr i fyw’n annibynnol.
Bydd y cynllun yn cynnwys System Draenio Dinesig Cynaliadwy (SDC) sy’n cynnwys gerddi glaw, plannu coed a seilwaith gwyrdd arall sy’n sicrhau bod dŵr glaw yn draenio’n naturiol i’r ddaear. Mae hyn yn helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd, yn darparu lleoedd gwyrddach a mwy deniadol i fyw ynddynt, ac yn cynyddu bioamrywiaeth leol.
Bydd y prosiect yn symud ymlaen mewn pedwar cam allweddol (gweler isod). Ar hyn o bryd rydym ar Gam 3:
Cam 1 Gwaith arolygu a chasglu gwybodaeth (Cwblhawyd):
Mae’r cam hwn yn cynnwys cynnal yr holl waith arolygu angenrheidiol ar y safle, fel arolygon coed, ecoleg a chyflwr safle. Maent yn dweud popeth sydd angen i ni ei wybod am y safle i helpu i lunio dyluniad y datblygiad arfaethedig. Dechreuodd y rhain yn 2020 ac mae’r diweddariadau yn parhau.
Cam 2 (Cwblhawyd):
Mae Cam 2 yn cynnwys defnyddio’r gwaith arolygu i nodi’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau ar y safle a chynnig rhai syniadau cychwynnol a dyluniadau cynnar ar gyfer y datblygiad arfaethedig.
Gwnaethom wynebu cyfyngiadau sylweddol ar y safle wrth reoli’r cam hwn, a wnaeth gynnwys trafodaethau manwl gydag ystod o arbenigwyr technegol i allu datblygu opsiwn ymarferol ar gyfer y dyluniad.
Cam 3 Opsiwn a Ffefrir (I’w gwblhau yn 2024):
Mae’r cam hwn yn cynnwys datblygu’r opsiwn ymarferol yn fanylach, yn barod ar gyfer cais cynllunio. Bydd y cam hwn yn cynnwys Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (YCY) gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill.
Dyma gyfle i chi ddweud wrthym beth yw eich barn ar y cynllun cyn i ni ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol fel cais cynllunio.
Bydd set lawn o gynlluniau ac adroddiadau am y datblygiad arfaethedig ar gael o ddechrau’r ymgynghoriad yn www.amityplanning.co.uk o Ddydd Gwener 8 Tachwedd 2024.
Hoffem glywed eich barn, a dyma sut y gallwch gysylltu â ni:
E-bost: info@amityplanning.co.uk
Ffôn: 07498 915610
Fel rhan o’r broses ymgysylltu, rydym yn cynnal digwyddiad arddangos cyhoeddus ddydd Iau 28 Tachwedd, rhwng 2pm a 7pm yn Hyb y Tyllgoed, Rhodfa Doyle, Caerdydd, CF5 3HU wrth ymyl y safle datblygu. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno unrhyw sylwadau yw Dydd Gwener 6 Rhagfyr 2024.
Cam 4 Cais Cynllunio (2024/5):
Gobeithiwn allu cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig yn gynnar yn 2025. Bydd y gymuned a rhanddeiliaid eraill yn cael cyfle i roi sylwadau pellach ar y cynigion bryd hynny.
Rydym am glywed eich barn ar le rydych chi’n byw, beth sy’n bwysig i chi fel trigolion a’n syniadau ar gyfer y datblygiad.
Rydym yn awyddus i gael barn pobl leol ac wedi trefnu sesiwn galw heibio –
28 Tachwedd, 2-7pm yn Hyb Llyfrgell y Tyllgoed, Rhodfa Doyle, CF5 3HU, – i rannu a thrafod ein cynigion gyda chi.
Gallwch gysylltu â ni am y datblygiad ar unrhyw adeg drwy’r blwch post datblygu tai DatblyguTai@caerdydd.gov.uk.
A yw Clwb Cymdeithasol ac Athletau’r Tyllgoed yn dal i weithredu?
Rhoddodd y Clwb y gorau i fasnachu yn 2018.
Pwy sy’n berchen ar y tir?
Cyngor Caerdydd sy’n berchen ar y tir.
Beth fydd yn digwydd i’r mast telathrebu sydd wedi’i leoli ar adeiladau’r Clwb ar hyn o bryd?
O dan delerau’r brydles, bydd y mast telathrebu yn cael ei symud.
Pryd fydd yr adeiladau’n cael eu dymchwel?
Pan fydd y dyluniad wedi’i ddatblygu a lleoliad newydd wedi’i gytuno a’i adeiladu ar gyfer y mast telathrebu, yna gellir dymchwel yr adeiladau.
A allaf gael fy ystyried am gartref?
I gael eich ystyried, ewch i Tai ar-lein
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiynu neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.