I bleidleisio dros eich hoff ddyluniad/ddyluniadau ar gyfer gemau stryd trefol ar ben ffyrdd Craddock Street a Wyndham Street, dewiswch eich hoff opsiwn/opsiynau ar gyfer pob lleoliad.
Craddock Street
Wyndham Street
Mae Cyngor Caerdydd eisiau sicrhau bod ein prosiectau’n bodloni anghenion amrywiaeth eang o bobl. Does dim rhaid i chi ateb y cwestiynau hyn, ac rydym yn gwybod bod rhywfaint o’r wybodaeth hon yn bersonol a sensitif ei natur. Fodd bynnag, mae casglu’r data hwn yn ein helpu i wybod a ydym yn cynnwys gwahanol grwpiau o bobl, ac yn ein helpu i fodloni eu hanghenion.
Mae’r wybodaeth a roddwch yn ddienw ac ni fydd yn cael ei storio gydag unrhyw wybodaeth sy’n gallu datgelu pwy ydych chi. Efallai y byddwn yn defnyddio’r data rydych wedi’i roi i ni i’n helpu i weithio gydag ystod ehangach o bobl, ond ni fydd eich data yn cael ei gyhoeddi ac ni fydd unrhyw un yn gwybod ei fod yn perthyn i chi. Mae’r holl fanylion yn cael eu cadw yn unol â Deddf Diogelu Data 2018.