Trowbridge Green

Bydd Cyngor Caerdydd yn gwneud gwelliannau i Trowbridge Green gyda’r nod o greu amgylchedd gwell i bobl fyw ynddo. Buom yn ymgynghori â phreswylwyr lleol i ganfod y blaenoriaethau lleol ar gyfer yr ardal.  Dyma’r hyn a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad:

  • Cyflwr y llwybrau cerdded
  • Cyflymder cerbydau
  • Cyflwr yr iardiau

Mewn ymateb i’r pryderon hyn, rydym yn cynnig gwella’r ardal drwy:

  • Ychwanegu ffiniau blaen a chefn newydd i eiddo.
  • Ychwanegu llwybrau blaen newydd i eiddo, gan gynnwys gatiau
  • Gwella llwybrau cerdded i gerddwyr drwy’r ardal
  • Gweithredu mesurau arafu traffig i helpu i leihau cyflymder cerbydau
  • Gwella iardiau’r fflatiau

Gwella’r iardiau

Rydym yn gwella’r iardiau drwy ychwanegu:

  • Arwyneb newydd,
  • Storfeydd biniau newydd,
  • Mesurau diogelwch gwell, a
  • Darpariaeth newydd ar gyfer sychu dillad

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am ddiweddariadau Trowbridge Green, Tredelerch, cysylltwch â ni.





    Lleoliad