Insole Shops area, Cardiff
Funded by UK Government logo

Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu gwneud gwelliannau i ardal siopa Insole fel rhan o raglen y Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau (CAC). Nodwyd nifer o faterion i ddechrau, gan gynnwys:

  • Ardal barcio a threfniant priffyrdd dryslyd
  • Palmentydd a lôn gerbydau o ansawdd gwael
  • Mynediad i gerddwyr a beiciau
  • Diffyg gwyrddni ac amgylchedd o ansawdd gwael
  • Goleuadau

Paratowyd cynlluniau drafft ar gyfer gwelliannau amgylcheddol yn seiliedig ar y materion uchod a chynhaliwyd dau ddigwyddiad ymgynghori cyhoeddus ar y safle ym mis Tachwedd 2023. Roedd adborth o’r digwyddiadau ymgynghori yn helaeth ac yn gadarnhaol ar y cyfan.  Roedd sylwadau’n ymwneud â’r ffaith bod y system barcio bresennol yn anhrefnus, yn wael ac yn beryglus; yr amgylchedd yn wael i gerddwyr (gan gynnwys y lôn gefn) a draenio yn broblem fawr. Cafwyd cefnogaeth gyffredinol i’r system unffordd arfaethedig. Nododd yr ymatebwyr nad yw’r parcio’n cael ei ddefnyddio’n gyffredinol gan bobl sy’n ymweld â’r siopau a bod yr ardal yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd fel llwybr byr i Heol Trelái.

Codwyd pryderon ynghylch y ‘gwaharddiad ar droi i’r dde’ arfaethedig ac effaith bosib parcio gormodol ar y strydoedd cyfagos. Codwyd pryderon pellach am y potensial ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol oherwydd y fainc arfaethedig a’r gostyngiad canfyddedig mewn mannau parcio ceir. Codwyd yr angen am fannau parcio â chyfyngiadau amser nifer o weithiau, yn ogystal ag ansawdd gwael y lôn gefn (wyneb a goleuadau).

Roedd yr ymatebwyr o blaid darparu mwy o finiau, stondinau beiciau a phlanwyr ac rydym wedi cadw’r rhain fel rhan o’r cynllun. Roedd darparu mainc yn fater mwy dadleuol. Rydym wedi cadw’r fainc arfaethedig oherwydd y budd posib i gerddwyr, yn enwedig y rheini sydd â phroblemau symudedd a byddwn yn monitro ei defnydd parhaus.

Felly, mae’r cynllun newydd yn dangos y canlynol:

  • System barcio ddiwygiedig
  • Atgyweiriadau i’r lôn gefn (wedi’u cwblhau)
  • Cadw’r system unffordd gyda gwaharddiad ar droi i’r dde
  • Cadw’r man parcio arfaethedig i bobl anabl
  • Cyfyngiadau amser ar fannau parcio (sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd)
  • Amgylchedd mwy cyfeillgar i gerddwyr
  • Biniau, planwyr, meinciau a stondinau beiciau

Gwybodaeth Prosiect

Dweud Eich Dweud!

Hoffem glywed eich barn ar ein cynigion a bydd unrhyw sylwadau a wnewch yn cael eu defnyddio i lywio’r dyluniadau terfynol.




    Hoffech chi weld unrhyw un o'r canlynol yn cael eu darparu wrth y siopau?






    Byddwn yn prosesu’ch data personol yn unol â’n tasg gyhoeddus dan GPDR y DU ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data gyfredol. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio a phrosesu’ch data personol, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd.

    https://privacy.cardiffcouncilwebteam.co.uk/Preifatrwydd.php?site=devregen&lang=cymraeg

    Cysylltwch â ni

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





      Lleoliad