
Mae’r Cyngor yn ceisio gwneud gwelliannau i’r ddwy ardal o dan bontydd Arglawdd Afon Taf a Heol Clare – mae hyn yn cynnwys gwelliannau i’r goleuadau ar Heol Clare ac Arglawdd Afon Taf, a gosod wyneb ffordd ar Heol Clare, sydd ar gamau cynnar dylunio. Fel rhan o’r gwelliannau diogelwch hyn, mae cyfle i osod placiau llawr haearn bwrw o dan y pontydd, gan arddangos tirnodau a digwyddiadau lleol y gorffennol a’r presennol. Mae argraffiadau arlunwyr o’r placiau hyn wedi’u cynhyrchu ac rydym yn gwahodd y cyhoedd i wneud sylwadau.
Dweud Eich Dweud
Rydym yn awyddus i gael eich barn ar ddarnau o waith celf a fydd yn cael eu hymgorffori yn y cynlluniau.
Drwy weithio gyda gwneuthurwyr lleol, bydd y gwaith celf yn cynnwys tirnodau, nodweddion a digwyddiadau hanesyddol a modern o’r cyffiniau ar ffurf placiau llawr haearn bwrw.
Cysylltwch â ni
Hoffem glywed eich sylwadau. I roi sylwadau ar y gwaith celf a gynigir, defnyddiwch ein ffurflen cysylltu â ni.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.