Current picture of Ely road end.

Bydd Cyngor Caerdydd yn gwneud gwaith gwella i’r lleoliadau uchod yn dilyn ymgynghoriad â’r cyhoedd a gynhaliwyd ym mis Hydref 2023.

Bydd y gwelliannau’n cynnwys:

  • Tynnu’r wal frics a’i disodli gyda rheiliau pêl du a rhwystrau igam-ogamu cyfatebol,
  • Ailwynebu llwybr troed a phalmant addurniadol ger y rheiliau,
  • Blwch plannu a choeden (wedi’i gosod yn ddiweddarach),
  • Lle parcio ychwanegol ar Y Rhodfa Fawr,
  • Bolardiau newydd,
  • Cyrbau isel lle bo angen.

Penodwyd Calibre Construction Ltd yn brif gontractwyr a byddant yn gwneud y gwaith ar ran Cyngor Caerdydd, gan ddechrau ar 9 Medi 2024. Disgwylir i’r prosiect orffen ar ôl oddeutu 6-8 wythnos.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae’n debygol y bydd ychydig o darfu, ond gwneir pob ymdrech i leihau hynny cymaint â phosib.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiynu neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.






    Lleoliad