Image of gated entrance to Clare Gardens

Mae’r Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau yn fenter ledled y ddinas sy’n ceisio mynd i’r afael â blaenoriaethau adfywio lleol. Mae’r rhaglen yn darparu prosiectau adfywio ar raddfa fach a gyflwynwyd gan Aelodau Lleol.

Mae prosiectau wedi’u cynllunio a’u datblygu mewn partneriaeth â thrigolion lleol, grwpiau cymunedol ac asiantaethau i fynd i’r afael ag angen neu broblem a nodwyd.

Yn dilyn syniadau a gyflwynwyd gan Aelodau Wardiau Lleol a sylwadau a dderbyniwyd mewn digwyddiad ymgynghori a gynhaliwyd yng Ngŵyl Glan yr Afon, bydd y cynllun arfaethedig yn cynnwys:

  • Ardal gardd gymunedol, gyda gwelyau wedi’u codi.
  • Llwybrau troed o’r newydd
  • Biniau ychwanegol
  • Dolydd deniadol a phlannu lefel isel
  • Byrddau picnic
  • Meinciau newydd
  • Nodwedd seddi
  • Ardal calisthenics / ymarfer corff
  • Bwrdd tenis bwrdd a bwrdd gwyddbwyll
  • Gatiau hunan-gau ychwanegol.
  • Lluniau lleol hanesyddol, wrth yr is-orsaf

Rydym hefyd yn edrych ar ddisodli’r gwaith celf cymunedol yng nghanol Gerddi Despenser, yn ogystal â thrwsio offer chwarae sydd wedi’i ddifrodi.

Gwybodaeth Prosiect

Statws Presennol

Mae gwaith ar y gweill yng Ngerddi Clare ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Awst, 2024. Yn ystod cyfnod y gwaith, bydd Gerddi Clare ar gau i’r cyhoedd er mwyn sicrhau y gellir gwneud y gwaith yn ddiogel.  Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y gwaith yn tarfu cyn lleied â phosibl.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cynllun, cysylltwch â ni drwy’r adran Cysylltu â ni.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am ddiweddariadau Pennsylvania, Llanedern, cysylltwch â ni.





    Lleoliad