

Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig gwneud gwelliannau i ben caeëdig ffyrdd mewn 4 lleoliad yng Nglan-yr-afon fel rhan o Raglen y Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau.
Yn dilyn yr ymgysylltiad diweddar, mae Cyngor Caerdydd yn falch o rannu’r cynlluniau terfynol ar gyfer cau’r ffyrdd.
Penodwyd Calibre Construction Ltd yn brif gontractwyr a byddant yn gwneud y gwaith ar ran Cyngor Caerdydd, gan ddechrau ar 3 Chwefror 2025. Bydd y prosiect yn cymryd tua 6-8 wythnos i’w gwblhau.
Bydd y gwelliannau’n cynnwys:
Littleton Street & Kingston Road
- Rhoi wyneb newydd ar y llwybr troed
- Tynnu gratiau coed a rhoi wyneb newydd y gellir ei ehangu yn eu lle, sy’n amddiffyn y coed i alluogi tyfiant gwreiddiau
- Rhoi bolardiau newydd yn lle’r hen rai, gan gynnwys bolardiau beicffordd ‘defnydd a rennir’.
Wyndham Street & Craddock Street
- Rhoi arwyneb newydd addurniadol i balmentydd.
- Plannu dwy goeden newydd ar Wyndham Street.
- Amnewid bolardiau presennol gyda rhai newydd, gan gynnwys bolardiau beicffordd ‘defnydd a rennir’.
- Tynnu planwyr sydd wedi’u difrodi a gosod dyluniadau ar gyfer gemau stryd trefol yn eu lle, wedi’u paentio ar yr ardaloedd palmant canolog.
- Gwaith celf i’w roi ar gabinet cyfleustodau Craddock Street.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae’n debygol y bydd ychydig o darfu, ond gwneir pob ymdrech i leihau hynny cymaint â phosibl.
Get in touch
If you have any questions or concerns about this project, please contact us.