Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu gwneud gwelliannau i’r ardal siopa yn Heol Ddwyreiniol y Bont-faen. Hoffem roi cyfle i drigolion, siopwyr a masnachwyr lleol ein helpu i wella eich ardal.
Cynhaliwyd dwy sesiwn ymgysylltu â’r cyhoedd i gael sylwadau gan breswylwyr, masnachwyr ac ymwelwyr â’r ardal. Roedd y sesiwn gyntaf yn ceisio cael barn gychwynnol ac awgrymiadau ar ba welliannau y gellid eu gwneud yn yr ardal. Yna cafodd y rhain eu casglu a’u defnyddio i baratoi cynlluniau cysyniadol drafft, a gyflwynwyd i’r gymuned mewn ail sesiwn ymgysylltu. Mae’r holl sylwadau ac awgrymiadau a gafwyd gan y gymuned wedi’u crynhoi mewn adroddiad adborth ymgysylltu â’r cyhoedd.
Y camau nesaf:
- Datblygu’r awgrymiadau a gyflwynwyd yn y cynllun cysyniadol
- Paratoi cynlluniau dylunio manwl i’w hystyried ymhellach
- Cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am gyllid i gyflawni cynllun gwella.
Dweud Eich Dweud
Diolch am gyflwyno eich sylwadau ar y gwelliannau i Heol Ddwyreiniol y Bont-faen. Bydd y sylwadau a dderbynnir yn cael eu hystyried a’u defnyddio i helpu i ddiweddaru ein dyluniadau arfaethedig. Ar ôl i hyn gael ei wneud, byddwn yn rhoi diweddariad i chi.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.