Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Tudor Street Improvement Scheme in progress

Mae ardal fusnes masnachol Stryd Tudor wedi’i nodi yng Nghynllun Gweithredu Coridor Busnes De Glan-yr-afon yn brif flaenoriaeth adfywio i’r Cyngor. Mae’r cynllun yn ceisio gwella Stryd Tudor fel cyrchfan unigryw a deniadol drwy greu amgylchedd dymunol a chroesawgar i fusnesau, preswylwyr a’r gymuned ehangach.

Mae cynllun Stryd Tudor yn brosiect partneriaeth gydag adrannau Adfywio a Thrafnidiaeth yn cydweithio i weddnewid yr amgylchedd busnes a chefnogi gwelliannau Trafnidiaeth ehangach. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru, Trawsnewid Cyllid Trefi a Chyllid Teithio Llesol a Chyngor Caerdydd.

Mae’r cynllun yn ategu Prosiect Stryd Tudor arall ar gyfer gwella adeiladau masnachol yn ogystal â gwelliannau i Tudor Lane.

Dechreuodd y prosiect ar y safle yn 2021 a’i nod yw creu:

  • Lôn feicio ddwyffordd newydd, ar wahân, o Bont Stryd Wood i’r gyffordd â Stryd Clare
  • Ynys fysus newydd gyferbyn â Plantagenet Street, yn hwyluso teithio ar fysus i’r Sgwâr Canolog a chanol y ddinas yn ehangach
  • Seilwaith gwyrdd newydd, yn benodol coed a gerddi glaw, gan hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer bioamrywiaeth a gwell ansawdd aer
  • Amgylchedd cyhoeddus dymunol a chroesawgar, gwella’r Porth i Dde Glan-yr-afon o ganol y ddinas, gyda blaenoriaeth i gerddwyr drwy balmentydd lletach a gwell croesfannau i gerddwyr
  • Gwell mynediad i Daith Taf drwy ailalinio’r ramp a’r grisiau presennol wrth y gyffordd â Stryd Tudor ac
  • Amgylchedd stryd rhagorach, gyda phalmentydd, celfi stryd a goleuadau newydd.
Welsh Government Part Funded logo

Gwybodaeth Prosiect

Map Cynllun Gwella Amgylchedd Busnes Stryd Tudor
STRYD TUDOR CYLCHLYTHYR – MAWRTH

Lleoliad