Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Star Hub entrance

Agorodd yr Hyb Cymunedol STAR newydd ei ddrysau i’r cyhoedd ym mis Medi 2016. Hwn oedd yr hyb cyntaf yn y ddinas i ymuno â Gwasanaethau Hamdden a Chymunedol dan yr un to.

Mae’r prosiect wedi dod ag ystod o wasanaethau’n agosach at y sawl sydd eu hangen yng nghymunedau Sblot, Tremorfa, Adamsdown a’r Rhath.

Mae staff wedi’u hyfforddi wrth law i’ch helpu i ddefnyddio amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleusterau gan gynnwys:

  • Pwll Nofio
  • Campfa
  • Dosbarthiadau Ffitrwydd Grŵp/Stiwdio
  • Ystafelloedd cyfarfod

Gwybodaeth Gyswllt

Muirton Road,
Caerdydd
CF24 2SJ

029 2078 8505​​​​

Ar gyfer oriau agor, neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Caerdydd neu dudalen Facebook Hyb STAR.

Lleoliad