Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

llanishen park before improvements

Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig gwneud gwelliannau i Barc Llanisien fel rhan o Raglen y Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau, sy’n cyflawni cynlluniau gwella a awgrymir gan Gynghorwyr lleol.  Nod y project yw annog mwy o ddefnydd ar y parc i wella iechyd a lles y gymuned leol.

Yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus derbyniwyd nifer o awgrymiadau gwych ar gyfer gwelliannau, ac roedd modd i ni sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r cynigion.

Ar ôl gwrando ar eich adborth, rydym yn gwella Parc Llanisien drwy:

Cam 1

  • Uwchraddio’r llwybrau cerdded – cynyddu lled y prif lwybrau ac ail-wynebu. Yn ogystal â gwaith draenio angenrheidiol.

Cam 2

  • Gwelliannau i fannau chwarae – gosod offer chwarae newydd a gwaith draenio angenrheidiol.
  • Meinciau a biniau newydd
  • Offer llwybr campfa awyr agored
  • Llwybr Natur trwy’r ardal coetir.
  • Gwelliannau i bob giât mynediad gan gynnwys arwyddion a gwaith celf newydd.
  • Darparu mesurau diogelwch o gwmpas yr ystafelloedd newid er mwyn mynd i’r afael â phroblemau parhaus o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gwybodaeth Prosiect

Statws cyfredol

Mae llwybr coetir wedi cael ei greu gydag arwyddion a cherfluniau ger y fynedfa.  Cafodd y cerfluniau eu dylunio a’u gwneud gan Talbot Sculpture, a weithiodd gyda disgyblion o Ysgol y Wern i greu gwaith celf yn dangos y planhigion a’r anifeiliaid lleol i’w cynnwys o fewn y cerfluniau.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am ddiweddariadau Parc Llanisien, cysylltwch â ni.





    Lleoliad