Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Mae Cyngor Caerdydd wedi creu Hyb Cymunedol newydd i wasanaethu’r Eglwys Newydd a’r cyffiniau. Mae gwaith adnewyddu cydnaws ac estyniad i ddarparu ystafell gymunedol aml-ddefnydd wedi diweddaru’r Adeilad Rhestredig Gradd II gwreiddiol. Mae’r adeilad wedi cynnwys llyfrgell ers dechrau’r 1900au pan gafodd ei godi gan Gyngor y Plwyf gyda chyllid gan Ymddiriedolaeth Carnegie.
Mae’r cyllid gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru wedi helpu i sicrhau cynaliadwyedd parhaus y cyfleuster gwerthfawr hwn, gyda’r gwasanaeth llyfrgell yn cael ei ategu gan gyfrifiaduron cyhoeddus am ddim a’r gallu i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau cyngor a chymorth a gynigir gan y Cyngor a’i asiantaethau partner.
Roedd y gwaith adfywio’n cynnwys:
- Mynedfa a lobi mynediad newydd
- Estyniad i ddarparu ystafell gymunedol aml-ddefnydd newydd
- Cyfleusterau derbynfa newydd a gwell
- Ailaddurno mewnol sy’n ystyriol o ddementia drwy’r gofod cyhoeddus, gan gynnwys silffoedd llyfrgell a mannau eistedd newydd
- Toiledau cyhoeddus hygyrch
- Gwell cyfleusterau TG a gwell signal Wi-Fi
Gwybodaeth Gyswllt
Hyb yr Eglwys Newydd,
Heol y Parc
Yr Eglwys Newydd
Caerdydd
CF14 7XA
029 2087 1331
Ar gyfer oriau agor, neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Caerdydd neu dudalen Facebook Hyb yr Eglwys Newydd.