Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.
Agorodd Hyb Llanedern ar ffurf well ac estynedig ei ddrysau i’r cyhoedd yn The Powerhouse ym mis Medi 2017.
Trwy estyn canolfan gymunedol The Powerhouse a oedd eisoes yn cael ei ddefnyddio’n helaeth, mae’r project hwn wedi dod ag ystod ehangach o wasanaethau’n agosach i’r rhai yn Llanedern sydd eu hangen ac sy’n eu defnyddio.
Gwnaeth hefyd alluogi partneriaeth rhwng y Cyngor a Heddlu De Cymru trwy ymgorffori llety newydd yn Llanedern ar gyfer gorsaf heddlu.
Mae gan Hyb The Powerhouse, Llanedern ddigon i’w gynnig. Mae staff wedi’u hyfforddi wrth law i’ch helpu i ddefnyddio amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleusterau gan gynnwys:
- Gwasanaeth llyfrgell, gan gynnwys ardal dawel a lle ar gyfer digwyddiadau plant.
- Gwasanaethau cyngor, tai a budd-daliadau
- Mynediad i’r rhyngrwyd, cyfrifiaduron a chysylltiad Wi-Fi am ddim
- Ffonau am ddim i gysylltu â’r Cyngor a gwasanaethau eraill
- Cyrsiau hyfforddi a Chyngor i Mewn i Waith
- Ystafell Hyfforddiant TGCh/ystafelloedd cyfweld preifat
- Ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau cymunedol
- Caffi cymunedol modern
- Help a chyngor arbenigol gan sefydliadau partner
- Neuaddau cymunedol
- Gwasanaethau Lles Dydd Mawrth ar gyfer y sawl sydd dros 50 oed.
- Gweithgareddau ieuenctid
- Dosbarthiadau ffitrwydd
Gwybodaeth Gyswllt
Hyb The Powerhouse
Roundwood,
Llanedern,
Caerdydd
CF23 9PN
029 2233 0201
Ar gyfer oriau agor, neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Caerdydd neu dudalen Facebook Hyb The Powerhouse.