Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Mae gwaith gwella yn y maes chwarae ym Mharc Heol y Delyn yn Llys-faen bellach wedi’i gwblhau. Yn dilyn ymgynghori â’r gymuned, dyluniwyd maes chwarae newydd gydag amrywiaeth eang o offer chwarae.
Mae’r maes chwarae mwy a newydd yn cynnwys ‘zipwire’, ffrâm ddringo â siâp côn sy’n troelli, peiriant reidio dynamig dwbl, whizzer a chylchfan newydd. Mae meinciau a biniau wedi’i hychwanegu ac mae llawr lliw enfys diogel yn rhoi bywyd i’r ardal. Mae’r amrywiaeth o eitemau chwarae ychwanegol yn addas i blant bach hyd at blant 12 oed.
Yn dilyn gwaith gosod, agorwyd y maes chwarae yng ngwanwyn 2017.
Lleoliad
Postiwyd ar Ionawr 13, 2022