Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Funded by UK Government logo
Image of improvements at Clare Gardens

Mae’r Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau yn fenter ledled y ddinas sy’n ceisio mynd i’r afael â blaenoriaethau adfywio lleol. Mae’r rhaglen yn darparu prosiectau adfywio ar raddfa fach a gyflwynwyd gan Aelodau Lleol.

Mae prosiectau wedi’u cynllunio a’u datblygu mewn partneriaeth â thrigolion lleol, grwpiau cymunedol ac asiantaethau i fynd i’r afael ag angen neu broblem a nodwyd.

Yn dilyn syniadau a gyflwynwyd gan Aelodau Ward Lleol a sylwadau a dderbyniwyd mewn digwyddiad ymgynghori a gynhaliwyd yng Ngŵyl Glan-yr-afon, roedd y cynllun arfaethedig yn cynnwys:

  • Ardal gardd gymunedol, gyda gwelyau wedi’u codi.
  • Llwybrau troed o’r newydd
  • Biniau ychwanegol
  • Dolydd deniadol a phlannu lefel isel
  • Byrddau picnic
  • Meinciau newydd
  • Nodwedd seddi
  • Ardal calisthenics / ymarfer corff
  • Bwrdd tenis bwrdd a bwrdd gwyddbwyll
  • Gatiau hunan-gau ychwanegol.
  • Lluniau lleol hanesyddol, wrth yr is-orsaf

Gosodwyd gwaith celf cymunedol newydd yng Ngerddi Despenser, gan yr artist lleol Nigel Talbot ac ar y cyd ag Ysgolion Cynradd Severn Road a Kitchener.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am ddiweddariadau Pennsylvania, Llanedern, cysylltwch â ni.





    Lleoliad