Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Mae’r Cyngor wedi gwneud rhai gwelliannau amgylcheddol i Lôn Tudor er mwyn cefnogi’r busnesau lleol a helpu i’w hyrwyddo fel estyniad bywiog i Ardal Siopa Stryd Tudor.
Mae’r gwelliannau’n cynnwys:
- Murlun newydd ar waliau ochr a chefn hen Glwb Trafnidiaeth Bysus Caerdydd
- Gwaith celf ar wal gefn Litchfield Court
- Baneri colofnau goleuadau
- Gosod arwyddion wrth y tair mynedfa i’r lôn (add photo of new square sign at entrances to lane
- System un ffordd o ran ddwyreiniol y lôn o Stryd Tudor (mynedfa agosaf at bont Stryd Wood) i’r allanfa ar Heol Clare
- Arwydd busnes newydd ar ochr Litchfield Court
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ychwanegol i gyflwyno cynllun grant gwella adeiladau. Roedd y cynllun ar gael ar gyfer adeiladau masnachol yn Lôn Tudor ac yn cefnogi gwelliannau mewnol ac allanol i eiddo gyda’r nod o ddod â gofod masnachol gwag neu anaddas yn ôl i ddefnydd buddiol.

Ymhlith y gwaith cymwys oedd:
- Blaenau siopau
- Llenni cloi
- Arwyddion
- Goleuadau
- Nwyddau dŵr glaw (gwteri a pheipiau dŵr)
- Ffenestri newydd
- Gwaith rendro, trwsio neu ail-bwyntio gwaith brics a glanhau gwaith carreg a pheintio
- Plastro
- Addurno’r tu mewn
- Waliau rhannu
- Grisiau mewnol i wella mynediad at loriau uchaf a thoeau teras
- Goleuadau (a gwaith trydanol cysylltiedig)
- Cyfleustodau a gwasanaethau, gan gynnwys gwresogi
- Cyfleusterau lles (e.e. ystafelloedd ymolchi hanfodol a chyfleusterau glanhau yn unig)
Fel rhan o broses fonitro’r Cyngor, rydym wedi llunio adroddiad gwerthuso i grynhoi cwmpas y cynllun a chofnodi’r allbynnau a’r cyflawniadau. Yn ogystal â hyn, rydym wedi cynnal arolwg adborth gyda pherchnogion eiddo a busnesau yn y lôn ac mae’r canlyniadau fel a ganlyn:
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.