Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.
Cwblhawyd ein gwaith adnewyddu helaeth ar Ganolfan Ddydd y Rhodfa Fawr yn Nhrelái ym mis Gorffennaf 2018.
Adnewyddwyd Canolfan Dydd y Rhodfa Fawr i greu canolfan ddementia arbenigol, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i roi cymorth gwell i unigolion a’u gofalwyr.
Chwaraeodd y staff rhan hanfodol o ran cynnig mewnbwn ar gyfer y broses ddylunio, gan sicrhau bod yr amgylchedd mewnol yn addas ar gyfer dementia.
Roedd y gwaith yn cynnwys:
- Lobi mynediad newydd mwy hygyrch
- Adfywio’r ystafelloedd ymolchi i gynnig ystafell wlyb gyda bath, cawod a thoiled
- Toiledau gwell i bobl anabl
- Lifft i ganiatáu i’r ystafelloedd islawr gael eu defnyddio fel ystafelloedd gweithgaredd newydd
- Gwaith addurno mewnol i greu amgylchedd sy’n addas i bobl â dementia
- Dodrefn newydd
- Gwelliannau i’r ardd gefn i gynnig amgylchedd allanol hygyrch
- Gwella gwedd flaen yr adeilad gan gynnwys gosod arwyddion newydd
Lleoliad
Postiwyd ar Rhagfyr 13, 2021