Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Canolfan Ddydd Minehead Road oedd y ganolfan ddydd gyntaf i elwa ar waith adnewyddu, gwaith a gwblhawyd fis Mehefin 2017.
Y nod oedd cynnig amgylchedd o safon i’r rheiny ag anghenion gofal a chymorth uchel a lefel isel/sefydlog o ddementia neu salwch meddwl gweithredol.
Wedi’i ariannu gan y Cyngor a grant Llywodraeth Cymru, mae’r gwaith wedi galluogi cyflawni mathau gwahanol o ofal yn yr adeilad, gan gynnwys amgylchedd well sy’n dda i ddementia.
Roedd y gwaith yn cynnwys:
- Adnewyddu’r brif neuadd ac ychwanegu dodrefn newydd
- Uwchraddio’r system wresogi
- Ychwanegu ystafell wlyb gwbl hygyrch newydd
- Ychwanegu toiledau newydd i bobl anabl
- Ailaddurno ystafelloedd gweithgaredd
- Gwella arwyddion a thu allan yr adeilad
- Ffensys diogelwch i ochr yr adeilad i gefnogi cynnal gweithgareddau awyr agored
- Ychwanegu dodrefn awyr agored
Lleoliad
Postiwyd ar Rhagfyr 13, 2021