Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.
Mae’r cyfleuster yn cynnwys arwyneb pob tywydd synthetig newydd gyda llifoleuadau a fydd yn caniatáu chwarae drwy’r flwyddyn. Bydd am ddim i’w ddefnyddio gan glybiau pêl-droed iau lleol hyd at 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a hyd at hanner dydd ar fore Sadwrn / Sul. Bydd slotiau amser eraill ar gael i’w llogi’n breifat. Os hoffech fynegi diddordeb mewn bwcio’r cyfleuster newydd, lawrlwythwch a dychwelwch y ffurflen gais i parciau@caerdydd.gov.uk. Rhaid archebu pob sesiwn ymlaen llaw.
Cyflwynwyd y prosiect gan Gynghorwyr lleol a chafodd ei ariannu trwy Raglen Cynlluniau Adnewyddu Cymdogaethau’r Cyngor.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.