Os ydych wedi cael llythyr gennym yn ddiweddar ynghylch dosbarthu allweddi trwy’r post ar gyfer cynllun gatiau lôn gefn newydd yn eich lôn a’ch bod am wneud cais i allweddi gael eu hanfon atoch trwy’r post, llenwch y ffurflen isod.
Ar ôl cyflwyno, byddwn yn trefnu i allweddi (2 yr eiddo ar y mwyaf) gael eu hanfon i’ch eiddo yn fuan, cyn i’r gatiau gael eu gosod.
Os oes gennych unrhyw bryderon yr ydych am eu trafod, cysylltwch â ni yn adfywio@cardiff.gov.uk. Neu gallwch roi manylion eich ymholiad yn y blwch sylwadau isod. Sicrhewch eich bod yn rhoi cyfeiriad e-bost neu rif ffôn a byddwn yn cysylltu â chi i drafod.
Cofiwch mai dim ond am gyfnod cyfyngedig y mae’r dewis post ar gael ar gyfer allweddi, fel y nodwyd yn ein llythyr atoch. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen casglu allweddi’n bersonol o Hyb Canol y Ddinas, Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Yr Aes, Caerdydd, CF10 1FL. Sicrhewch fod y ddwy ddogfen ganlynol gyda chi wrth gasglu:
- Prawf o bwy ydych chi (ID â llun fel trwydded yrru neu basbort)
- Prawf o gyfeiriad (fel bil trydan/nwy/dŵr diweddar, cyfriflen morgais, cytundeb tenantiaeth ac ati., sy’n cynnwys eich enw a chyfeiriad yr eiddo).
Mae llwyddiant y cynllun i roi gatiau yn dibynnu ar ddeiliaid allweddi’n sicrhau bod y gatiau’n cael eu cloi’n iawn ar ôl eu defnyddio. Rydym yn gofyn i bob deiliad allweddi ddilyn egwyddorion sylfaenol i sicrhau y gall pawb barhau i gael mynediad i’r lôn a manteisio ar y diogelwch y maent yn ei gynnig.
1. Diogelwch eich allwedd/allweddi. Codir £10 ar ddeiliaid allweddi ambob allwedd newydd.
2. Cadwch eiddo cymdogion mewn cof – agorwch a chaewch y gatiau’n dawel a sicrhau eu bod yn cael eu cloi’n iawn ar ôl eu defnyddio.
3. Peidiwch â chaniatáu i unrhyw un diawdurdod gael mynediad i’r lôn gefn. Peidiwch â benthyca eich allwedd i unrhyw berson nad yw’n byw yn eich eiddo. Os symudwch allan o’r eiddo, rhowch yr allwedd i’r perchennog newydd neu’r landlord, fel sy’n briodol.
4. Rhowch wybod am unrhyw ddifrod neu atgyweiriadau sy’n ymwneud â’r gatiau i’r Cyngor ar 029 2087 2088 neu ar-lein yn www.caerdydd.gov.uk. Rhowch gymaint o fanylion â phosibl i sicrhau yr eir i’r afael â’r broblem yn effeithlon (e.e. eich cyfeiriad, lleoliad y gatiau dan sylw, beth yw’r broblem).
5. Er ei bod wedi’i gatio, mae’r lôn yn parhau i fod yn briffordd fabwysiedig ac mae’n parhau i fod yn ddarostyngedig i’r un rheoliadau priffyrdd ag o’r blaen. Felly, rhaid i’r lôn aros yn glir bob amser ar gyfer mynediad:
- Cerbydau wedi’u parcio yn y lôn: Mae rhwystro mynediad i’r briffordd yn drosedd draffig ac felly ni ddylid parcio cerbydau yn y lôn. Fel gydag unrhyw lôn, efallai y bydd angen i gerbydau stopio am gyfnodau byr er mwyn hwyluso anghenion preswylwyr (er enghraifft, contractwyr yn gwneud gwaith adnewyddu neu fusnesau’n danfon nwyddau). Yn yr achosion hyn, dylid cymryd agwedd bragmataidd (er enghraifft, a oes llwybrau eraill yn y lôn a allai gael eu defnyddio dros dro?). Fodd bynnag, anogir deiliaid allweddi i roi gwybod am unrhyw gerbydau sy’n achosi rhwystr cyson neu barhaol i’r lôn (neu gatiau’r lôn gefn) i’r heddlu. Gellir rhoi gwybod am gerbydau wedi’u parcio ar farciau ffordd (fel llinellau melyn dwbl) i’r Cyngor.
- Rhwystrau eraill: Ni chaniateir i breswylwyr osod neu godi unrhyw eitemau yn y lôn (er enghraifft sgaffaldiau, sgipiau ac ati) heb gytundeb ymlaen llaw gan yr Awdurdod Priffyrdd.
- Cynnal amgylchedd diogel, tawel a heddychlon: Er y dylai’r gatiau helpu i leihau troseddu yn yr ardal, atgoffir preswylwyr i barhau i sicrhau bod eu heiddo wedi’i ddiogelu’n briodol. Dylai’r gatiau helpu i leihau lefelau sŵn sy’n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond gofynnwn i’r holl breswylwyr barhau i ddefnyddio’r lonydd mewn modd tawel a pharchus, a byddwch yn ymwybodol o lefelau sŵn wrth gyflawni unrhyw weithgareddau yn y lôn (er enghraifft, wrth agor a chau’r gatiau) i helpu i gynnal amgylchedd heddychlon i’r gymuned leol.
- Tipio anghyfreithlon / dympio: Anogir deiliaid allweddi i roi gwybod am dipio anghyfreithlon / dympio i’r Cyngor ar 029 2087 2088 neu ar-lein yn www.caerdydd.gov.uk. Bydd unrhyw berson y canfyddir ei fod yn dympio sbwriel yn wynebu camau gorfodi ar ffurf Hysbysiad Cosb Benodedig a dirwy.
- Gwaith cyffredinol i gynnal a chadw lonydd: gellir rhoi gwybod am faterion fel gordyfiant, chwyn, draeniau wedi’u blocio, cyflwr arwynebau ac ati i’r Cyngor ar 029 2087 2088 neu ar-lein yn www.caerdydd.gov.uk.