Houses into homes logo

Mae Benthyciadau Eiddo Gwag ar gael drwy Troi Tai’n Gartrefi, sef cynllun benthyciadau di-log sy’n cael ei gynnig gan Gyngor Caerdydd a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Os ydych yn bwriadu adfer eiddo gwag i’w ddefnyddio eto fel llety preswyl, naill ai drwy adnewyddu neu drosi, gallech fod yn gymwys i gael cymorth.

Meini Prawf Benthyciad Allweddol

  • Rhaid i eiddo fod yn ardal Caerdydd ac wedi bod yn wag ers 6 mis neu fwy.
  • Mae benthyciadau ar gael i adnewyddu eiddo preswyl sengl neu drosi eiddo preswyl yn nifer o unedau llety.
  • Mae benthyciadau ar gael i drosi eiddo masnachol yn llety preswyl.
  • Gall ymgeiswyr fenthyca hyd at £25,000 ar gyfer pob eiddo neu uned llety hunangynhwysol, hyd at werth benthyciad o £150,000 ar y mwyaf.
  • Gall unigolion a chwmnïau wneud cais.
  • Rhaid i eiddo gael eu gwerthu neu eu rhentu ar ôl cwblhau’r gwaith (nid yw benthyciadau ar gael i berchnogion a fydd yn meddiannu eu heiddo yn dilyn y gwaith).
  • Rhaid ad-dalu benthyciadau i werthu o fewn dwy flynedd (neu pan werthir yr eiddo, os yn gynt).
  • Rhaid ad-dalu benthyciadau i rentu o fewn tair blynedd.
  • Caiff pob benthyciad ei sicrhau gan arwystl cyfreithiol ar yr eiddo (arwystlon cyntaf neu ail arwystlon yn unig).
  • Ni all swm y benthyciad nac unrhyw ddyled arall a sicrheir yn erbyn yr eiddo (fel morgais) fod yn fwy nag 80% o werth presennol yr eiddo (a elwir yn Fenthyciad mewn Cymhariaeth â Gwerth).
  • Codir llog os torrir amodau’r benthyciad.

I gael gwybodaeth lawn darllenwch y Llyfryn Benthyciadau a’r Cwestiynau Cyffredin.

I gael pecyn cais am fenthyciad, cwblhewch Ffurflen Datgan Diddordeb.

Ffurflen Datgan Diddordeb

Mae’r Cyngor yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg ac mae pecynnau cais ar gyfer Benthyciadau Eiddo Gwag Troi Tai’n Gartrefi ar gael yn y ddwy iaith ac fe gânt eu trin yn gyfartal.

    1. Nodwch eich manylion cyswllt:

    Hysbysiad Preifatrwydd: Defnyddir y data personol a gesglir ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ynglŷn â’r cynllun benthyciadau eiddo gwag.

    Prosesir yr holl ddata personol yn unol â GDPR a Deddf Diogelu Data 2018. Mae mwy o wybodaeth am sut y bydd eich data yn cael ei brosesu ar gael yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.

    Troi Tai’n Gartrefi – Llyfryn Benthyciadau

    1.0 CYFLWYNIAD

    Mae’r llyfryn hwn yn manylu ar y benthyciadau adnewyddu eiddo sydd i’w darparu drwy Fenter Eiddo Gwag Cymru gyfan (Troi Tai’n Gartrefi).  Mae hwn yn gynllun sydd wedi’i ddatblygu i gynnig benthyciadau di-log i adnewyddu a / neu drosi eiddo gwag fel eu bod yn addas i fyw ynddynt eto.  Mae’r llyfryn hwn yn disgrifio sut y bydd y Cynllun Benthyciadau yn gweithredu, sut i wneud cais a’r amodau a fydd ynghlwm wrth y benthyciadau.

    Bydd nifer o amodau ynghlwm wrth yr holl fenthyciadau a gymeradwyir i sicrhau bod arian y gronfa fenthyciadau yn cael ei “ailgylchu” i gynorthwyo rhagor o gynlluniau eiddo gwag.

    Ni chaiff unrhyw gynnig o fenthyciad ei warantu nes eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth ffurfiol gan y Cyngor. Bydd unrhyw waith y byddwch yn ei wneud cyn cael y gymeradwyaeth hon ar eich risg eich hun.

    Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’r cynllun neu amodau’r benthyciad at:

    Gweinyddwr Troi Tai’n Gartrefi
    Cyngor Caerdydd,
    Ystafell 357,
    Neuadd y Sir,
    Glanfa’r Iwerydd,
    Caerdydd
    CF10 4UW

    E-bost troitaingartrefi@caerdydd.gov.uk

    2.0 FFIOEDD YMGEISIO

    Mae’r ffioedd canlynol yn berthnasol:

    Ffi weinyddol

    Bydd angen ffi weinyddol fel cyfraniad tuag at gostau prosesu eich cais.

     
    Swm y benthyciad Ffi
    £0 – £50,000 £295
    £50,001 – £100,000 £395
    £100,001 – £150,000 £495

    Ffi’r Gofrestrfa Tir

    Mae’n ofynnol i Wasanaethau Cyfreithiol y Cyngor gofrestru pridiant cyntaf neu ail bridiant ar yr eiddo sy’n cael ei gynnig fel gwarant.

    Ar gyfer benthyciadau hyd at £100,000.00 y ffi yw £50.00 fesul teitl

    Ar gyfer benthyciadau dros £100,000.01 y ffi yw £70.00 fesul teitl

    Yn ogystal â’r uchod bydd gofyn i gwmni sy’n gwneud cais am fenthyciad dalu ffi o £45.00 i dalu am y costau sydd ynghlwm wrth gofrestru’r pridiant yn Nhŷ’r Cwmnïau.

    Bydd y ffioedd perthnasol yn cael eu didynnu o swm y benthyciad a delir.

    Ffi Brisio

    • Rhaid i bob cais gael ei gefnogi gan adroddiad prisio, oni bai bod y Gweinyddwr Troi Tai’n Gartrefi wedi nodi fel arall. Rhaid i’r adroddiad prisio gael ei gynnal gan aelod o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar yr eiddo a gynigir fel gwarant ar gyfer y benthyciad. Dylai’r adroddiad gadarnhau gwerth cyfredol yr eiddo ar y farchnad.  Os yw’r prisiad yn ymwneud â’r eiddo sy’n cael ei adnewyddu neu ei ddatblygu, dylai hefyd gadarnhau’r gwerth posibl (ar ôl ei gwblhau) ac incwm rhent (os yw’n fenthyciad i osod). Ni ddylai’r adroddiad prisio fod yn fwy na 3 mis oed.
    • Yr ymgeisydd fydd yn talu am gael yr eiddo wedi’i brisio ac ni chaiff unrhyw gais am fenthyciad ei brosesu heb y ddogfen hon, oni bai bod y Gweinyddwr Troi Tai’n Gartrefi wedi nodi fel arall.
    • Nodwch fod rhaid enwi Cyngor Caerdydd fel parti â diddordeb a rhaid i’r syrfëwr nodi bod y Cyngor yn dibynnu ar yr adroddiad prisio at ddibenion y cais am fenthyciad.

    Argymhellir bod ymgeiswyr yn dod o hyd i’w syrfëwr cymeradwy eu hunain i gyflawni hyn.  Gweler Adran 5.0 Gwarantu Benthyciadau i gael rhagor o wybodaeth.

    3.0 Y CYNLLUN BENTHYCIADAU

    3.1 At ba ddibenion y caniateir gwneud cais am Fenthyciad

    • I adnewyddu eiddo hyd at safon resymol, a heb unrhyw beryglon difrifol ynddo (safon sylfaenol), fel ei fod yn addas i fyw ynddo ar unwaith, p’un ai ar werth (benthyciad i werthu) neu i’w osod/rhentu (benthyciad i osod).  Gweler Atodiad C (Safon Troi Tai’n Gartrefi).  Mae’n rhaid i’r eiddo fod wedi bod yn wag ers o leiaf 6 mis.
    • I addasu eiddo gwag neu adeilad masnachol i un neu fwy o unedau hyd at y Safon Troi Tai’n Gartrefi (safon sylfaenol), fel ei fod yn addas i fyw ynddo ar unwaith, p’un ai ar werth (benthyciad i werthu) neu i’w osod/rhentu (benthyciad i osod).

    Gall personau sy’n gwneud cais am y benthyciadau uchod un ai fod y perchenogion presennol neu’n ddarpar-berchenogion, ond yn y naill achos a’r llall mae’n rhaid iddynt allu gwarantu’r benthyciad fel y nodir yn adran 5 isod.  Cofiwch, rhaid i’r eiddo fod yn enw’r ymgeisydd cyn y gellir cymeradwyo’r benthyciad.

    3.2 Gwaith Cymwys

    I fod yn gymwys, rhaid i’r gwaith:-

    • Ar ôl ei gwblhau, olygu bod yr eiddo / unedau yn addas i fyw ynddo/ynddynt fel annedd/anheddau ar unwaith,
    • Cydymffurfio â’r holl Reoliadau Adeiladu, a
    • Bodloni gofynion y Safon Troi Tai’n Gartrefi – gweler atodiad C.

    Cytunir ar raglen waith gyda’r ymgeisydd cyn rhoi unrhyw gynnig o fenthyciad a bydd hynny’n rhan o amodau’r benthyciad.

    Ni fydd unrhyw gostau, a fyddai’n gymwys ar gyfer cymorth o dan hawliad yswiriant neu hawliad trydydd parti, yn denu cymorth benthyciad.   Mewn achosion eithriadol, gellir rhoi benthyciad ar yr amod ei fod yn cael ei ad-dalu o enillion unrhyw hawliad yn y dyfodol.

    Nid yw gwaith y tu allan i gwrtil yr eiddo yn gymwys i gael cymorth oni bai ei fod yn ymwneud â darparu gwasanaethau hanfodol fel dŵr, nwy neu drydan.

    3.3 Ymholiadau Benthyciadau

    Bydd pob ymholiad am fenthyciad yn cael ei gydnabod drwy lythyr neu e-bost ac yna’n cael ei drin yn unol â safonau’r Fenter Eiddo Gwag Troi Tai’n Gartrefi ar gyfer benthyciadau eiddo gwag.   Ceir copi o’r safonau gwasanaeth yn atodiad A.

    3.4 Adeiladau Nad Ydynt Yn Denu Cymorth Benthyciadau

    Ni fydd cymorth benthyciadau ar gael ar gyfer y canlynol: –

    • Eiddo, nad ydynt o natur barhaol fel cychod wedi’u troi’n dai a charafanau.
    • Siediau, tai allan ac estyniadau fel ystafelloedd gwydr, nad oes ganddynt gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu.
    • Adeiladau nad ydynt yn addas i’w troi’n anheddau y gellir byw ynddynt.
    • Adeiladau lle defnyddir o leiaf 40% gan yr ymgeisydd a / neu ei deulu fel eu cartref.

    4.0 Y CAIS

    Dylid gwneud cais am gymorth benthyciad ar y ffurflenni a ddarperir drwy’r Fenter Eiddo Gwag Troi Tai’n Gartrefi. I gael pecyn cais, cwblhewch Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb. Dylai cais cyflawn gynnwys y canlynol:-

    • Ffurflen gais wedi ei chwblhau.
    • Cadarnhad o berchnogaeth o’r eiddo. Fel arfer, dylai hwn fod yn “gopi swyddfa” o’r Gofrestr Teitlau a Chynllun Teitl a ddarperir gan Swyddfa’r Gofrestrfa Tir Lleol – landregistry.gov.uk
    • Dau amcangyfrif wedi’u heitemeiddio a chost unrhyw ffioedd cysylltiedig e.e. ffioedd peiriannydd strwythurol, neu ffioedd rheoli prosiect. Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd y Cyngor yn gallu derbyn un amcangyfrif, lle bo’n briodol gwneud hynny.
    • Dogfennau ategol at ddibenion adnabod
    • Os yw’n gais gan gwmni – rhaid i chi ddarparu cyfrifon y 3 blynedd diwethaf.
    • Os ydych yn unigolyn, rhaid i chi ddarparu 2 slip cyflog neu P60.
    • Os ydych yn hunangyflogedig, rhaid i chi ddarparu 3 blynedd o gyfrifon.
    • Tystiolaeth o gyllid diffyg (os yw costau adnewyddu yn fwy na £25,000 fesul eiddo)
    • Adroddiad Prisio (a gynhelir gan aelod o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS). Mewn achosion eithriadol, lle nad oes morgais ar yr eiddo a bod tystiolaeth glir i gefnogi’r farn bod yr eiddo’n darparu gwarant ddigonol ac addas ar gyfer y benthyciad, ni fydd angen adroddiad prisio.
    • Adroddiadau arbenigol, Rheoliadau Adeiladu, Caniatâd Cynllunio a chynlluniau lle bo angen. Os yw eiddo wedi’i eithrio o Reoliadau Adeiladu, mae angen llythyr yn cadarnhau hyn gan Dîm Rheoli Adeiladu Cyngor Caerdydd hefyd.
    • Unrhyw fanylion eraill a hysbysir i’r ymgeisydd cyn gwneud penderfyniad ynghylch a ddylid gwneud cynnig o fenthyciad i’r ymgeisydd.
    • Caniatâd gan y benthyciwr cyntaf.

    Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i gynnal gwiriad credyd ar unrhyw berson neu gwmni cyfyngedig sy’n gwneud cais am fenthyciad.

    5.0 GWARANTU BENTHYCIADAU

    Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd am fenthyciad gytuno i roi pridiant cyfreithiol ar yr eiddo, sy’n gysylltiedig â’r cais am fenthyciad, i warantu’r benthyciad.   Gellir gwneud cytundeb, dan amgylchiadau eithriadol, i dderbyn pridiant ar eiddo arall.

    Rhaid i’r holl bridiannau cyfreithiol fod un ai’n bridiannau cyntaf (pan fo  Cyngor Caerdydd  yn cael cadarnhad gan ddeiliad y pridiant cyntaf ei fod yn rhoi caniatâd i roi ail bridiant ar yr eiddo) neu’n ail bridiant.  Ni dderbynnir trydydd pridiant neu bridiannau dilynol.

    Pan fo cytundeb i dderbyn pridiant cyfreithiol ar eiddo arall nad yw’n gysylltiedig â’r cais am fenthyciad, mae’n rhaid i’r eiddo arall fod yng Nghymru neu’n Lloegr.  Fodd bynnag, yr ymgeisydd fydd yn gyfrifol am dalu unrhyw gostau cyfreithiol ychwanegol mewn cysylltiad â’r trefniant hwn.

    Bydd angen i unrhyw eiddo a gynigir fel gwarant ar gyfer y benthyciad gael ei brisio cyn i unrhyw fenthyciad fynd rhagddo.  Mewn achosion eithriadol, lle nad oes morgais ar yr eiddo a bod tystiolaeth glir i gefnogi’r farn bod yr eiddo’n darparu gwarant ddigonol ac addas ar gyfer y benthyciad, ni fydd angen adroddiad prisio.

    Rhaid i syrfëwr sy’n aelod o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) brisio’r eiddo, a bydd y gost yn amrywio yn unol â’r eiddo sy’n cael ei gyflwyno, a’r ymgeisydd fydd yn talu amdano.

    Dylai’r prisiad gynnwys gwerth presennol yr eiddo yn ei gyflwr presennol, y gwerth posibl yn y dyfodol (os mai’r eiddo ar gyfer gwarant yw’r un sy’n cael ei adnewyddu) ac incwm rhent posibl (os bydd yr eiddo’n cael ei osod ar ôl cwblhau’r gwaith). Ni ddylai’r adroddiad prisio fod yn fwy na 3 mis oed.

    Ni fydd y Cyngor yn gallu gwneud penderfyniad ynghylch a ddylid cymeradwyo cais heb y ddogfen brisio hon.

    Lle mae’r eiddo, sydd i’w gynnig fel gwarant ar gyfer y benthyciad, eisoes â phridiant wedi’i gofrestru yn ei erbyn, bydd angen cadarnhad ysgrifenedig gan ddeiliad y pridiant presennol, sy’n cadarnhau ei fod yn cytuno i bridiant pellach gael ei osod yn erbyn yr eiddo  (mae hyn yn un o ofynion y Gofrestrfa Tir). Sylwch, bydd angen gwneud Gweithred o Flaenoriaeth hefyd.

    Mae ffi yn daladwy i gofrestru’r tâl yn y Gofrestrfa Tir, a fydd yn cael ei didynnu o swm terfynol y benthyciad a delir.  Gweler Adran 2.0 am y ffioedd cyfredol a godir.  Pe bai’r ffioedd hyn yn cael eu hamrywio gan y Gofrestrfa Tir, mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i godi’r ffi ddiwygiedig.

    Pan fo’r ymgeisydd yn gwmni, mae ffi hefyd yn daladwy i gofrestru’r tâl yn Nhŷ’r Cwmnïau, a fydd yn cael ei ddidynnu o swm terfynol y benthyciad a delir. Gweler Adran 2.0 am y ffioedd cyfredol a godir.  Pe bai’r ffi hon yn cael ei hamrywio gan Dŷ’r Cwmnïau, mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i godi’r ffi ddiwygiedig.

    6.0 ASESU RISG BENTHYCIAD

    Bydd pob cais am fenthyciad yn destun asesiad risg a fydd yn rhan o unrhyw benderfyniad i gymeradwyo benthyciad.  Ceir manylion am sut y cynhelir yr asesiad hwn yn Atodiad B. Mae’r cynllun yn gweithredu trothwy o uchafswm o 80% Benthyciad i Werth, yn seiliedig ar swm y benthyciad arfaethedig ac unrhyw forgais presennol, yn erbyn gwerth presennol yr eiddo.

    7.0 RHOI GWYBOD AM GYMERADWYAETH BENTHYCIAD

    Caiff yr ymgeisydd wybod yn ysgrifenedig a yw’r cais am gymorth yn cael ei gymeradwyo neu ei wrthod.  Rhoddir gwybod cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl derbyn cais wedi’i gwblhau sy’n cynnwys yr holl ddogfennau ategol perthnasol ac ym mhob achos o fewn deng wythnos.

    Bydd y gymeradwyaeth yn pennu swm y benthyciad a’r cyfnod ad-dalu. Bydd cynnig benthyciad yn parhau ar agor am 8 wythnos o ddyddiad y llythyr hysbysu.

    Bydd swm y benthyciad yn seiliedig ar yr amcangyfrif isaf o’r ddau a dderbyniwyd.  Fodd bynnag, mewn unrhyw achos lle canfyddir bod yr amcangyfrifon yn ormodol gan Gyngor Caerdydd, bydd swm y benthyciad yn cael ei bennu gan y Cyngor yn seiliedig ar yr hyn y mae’n ei ystyried yn gostau rhesymol ar gyfer y rhestr waith.

    Ar ôl cadarnhau bod y cynnig benthyciad wedi’i dderbyn, bydd cyfarwyddyd yn mynd i Adran Gwasanaethau Cyfreithiol Cyngor Caerdydd i lunio dwy set o’r dogfennau Cytundeb Benthyciad a Phridiant Cyfreithiol.  Bydd Cyngor Caerdydd yn rhoi’r rhain i’r ymgeisydd.  Rhaid cwblhau’r ddwy set o ddogfennau a’u dychwelyd i’r Cyngor os yw’r ymgeisydd yn dymuno bwrw ymlaen â’r benthyciad o fewn 8 wythnos i ddyddiad y llythyr hysbysu gwreiddiol.

    Ar ôl derbyn y dogfennau a gwblhawyd,  bydd yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol yn gwneud cais i Swyddfa’r Gofrestrfa Tir i gofrestru’r pridiant cyfreithiol yn erbyn yr eiddo.  Os yw’r ymgeisydd yn Gwmni, bydd y Cyngor hefyd yn gwneud cais i Dŷ’r Cwmnïau i gofrestru’r pridiant.

    Ar ôl cadarnhau bod y Pridiant/Pridiannau Cyfreithiol wedi’u cofrestru, bydd arian y benthyciad yn cael ei ddyfarnu yn unol ag unrhyw amodau sydd wedi’u pennu a’u cofnodi yn y ddogfen Cytundeb Benthyciad.  Bydd un set wreiddiol o’r dogfennau Cytundeb Benthyciad a Phridiant Cyfreithiol yn cael eu dychwelyd i’r ymgeisydd.

    Ni ddisgwylir i’r cyfnod hwn fod yn hwy na 14 diwrnod ar ôl cofrestru’r Pridiant/Pridiannau Cyfreithiol.

    Bydd cynnig benthyciad yn dod i ben 8 wythnos ar ôl i’r llythyr hysbysu cymeradwyo benthyciad gael ei gyhoeddi. Os ar ôl yr amser hwn, nad yw Cyngor Caerdydd wedi derbyn y dogfennau perthnasol, bydd y cynnig benthyciad yn cael ei ganslo a bydd yr ymgeisydd yn cael gwybod yn ysgrifenedig.

    Os yw ymgeisydd yn peidio â bod yn berchennog ar yr eiddo, sy’n gysylltiedig â’r benthyciad, neu os yw’n ymddangos i’r Cyngor nad oedd gan yr ymgeisydd, ar adeg cymeradwyo’r cais, hawl i’r benthyciad, ni wneir taliad a bydd y benthyciad yn cael ei ganslo.

    Ni ellir trosglwyddo benthyciadau rhwng ymgeiswyr nac eiddo.

    8.0 SWM Y CYMORTH

    £25,000 fesul uned o lety, hyd at uchafswm o £150,000 fesul ymgeisydd.

    Er enghraifft:

    1. Byddai cartref teuluol 2 ystafell wely yn gymwys i gael benthyciad o £25,000.  (Wedi’i ddosbarthu fel 1 uned)
    2. Byddai tŷ sy’n cael ei droi’n 2 fflat hunangynhwysol yn gymwys i gael benthyciad o £50,000.
    3. Byddai tŷ mawr sy’n cael ei droi’n 8 fflat hunangynhwysol yn gymwys i gael yr uchafswm benthyciad o £150,000.

    NODER – Mae’r swm hwn yn cynnwys yr holl gostau gan gynnwys treth ar werth a ffioedd.

    Os yw Cyngor Caerdydd yn fodlon, oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth yr ymgeisydd a bod costau’r gwaith wedi cynyddu oherwydd gwaith nas rhagwelwyd, gellir cynyddu’r benthyciad, o dan amgylchiadau eithriadol, yn amodol ar uchafswm y benthyciad a chyflwyno amcangyfrifon boddhaol.

    Rhaid i amcangyfrif priodol gefnogi unrhyw gais am unrhyw gynnydd mewn benthyciad.

    Rhaid i unrhyw gostau ychwanegol a ysgwyddir gan Wasanaethau Cyfreithiol Cyngor Caerdydd mewn cysylltiad â diwygiadau i’r Dogfennau Cytundeb Benthyciad a Phridiant Cyfreithiol, gael eu talu gan y sawl sy’n ymgeisio am y benthyciad a byddant yn daladwy i Gyngor Caerdydd cyn rhyddhau cyllid pellach, os caiff hynny ei gymeradwyo.

    9.0 GORUCHWYLIO GWAITH

    Bydd y contract adeiladu rhwng yr ymgeisydd a’r contractwr a ddewiswyd ac ni fydd yn cynnwys Cyngor Caerdydd.   Bydd swyddog o’r Cyngor neu asiant sy’n gweithredu ar ei ran yn gwirio’r gwaith i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni yn unol â manyleb y gwaith, ac yn bodloni gofynion y Safon Troi Tai’n Gartrefi ac arferion adeiladu da.   Fodd bynnag, nid yw’r Cyngor, ei swyddogion na’i asiantau sy’n gweithredu ar ei ran, yn atebol am unrhyw waith gwael ac nid ydynt yn darparu unrhyw warant.

    Lle y bo’n briodol, argymhellir bod ymgeiswyr yn cyflogi eu syrfëwr eu hunain y mae eu ffioedd yn gymwys i gael cymorth benthyciad, yn amodol ar uchafswm y benthyciad.   Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith.   Cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd unrhyw waith nad yw wedi’i gwblhau i safon dderbyniol.

    Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd yr ymgeisydd yn rhoi gwybod i Gyngor Caerdydd neu ei asiant bod:-

    • Y gwaith wedi’i gwblhau i safon foddhaol ac yn unol â’r cynnig benthyciad a’r amcangyfrifon, y Rheoliadau Adeiladu presennol ac yn unol â’r fanyleb gwaith a gyhoeddwyd;
    • Mae copïau o waith a wnaed a thaliadau a wnaed, warantau ardystiedig a thystysgrifau prawf y gofynnir amdanynt fel rhan o’r rhestr waith y cytunwyd arni ar gael i’w harchwilio; ac
    • Mae’r gwaith o atgyweirio ac adnewyddu’r eiddo yn cydymffurfio â’r “Safon Troi Tai’n Gartrefi”.

    10.0 APELIADAU YN ERBYN GWRTHOD BENTHYCIAD

    Pan wrthodir cais am fenthyciad, hysbysir yr ymgeisydd am y rhesymau dros wrthod yn ysgrifenedig a nodir y weithdrefn ar gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad.

    Os yw ymgeisydd yn anghytuno â’r rhesymau dros wrthod, gellir gwneud apêl yn ysgrifenedig i’r Rheolwr Datblygu Tai, gan nodi’r rhesymau pam mae’r ymgeisydd yn anghytuno.   Dylid gwneud yr apêl hon o fewn 14 diwrnod ar ôl derbyn y llythyr gwrthod.

    Hysbysir yr ymgeisydd, yn ysgrifenedig ac o fewn 14 diwrnod, o’r penderfyniad.

    Os nad yw’r Rheolwr Datblygu Tai yn caniatáu’r apêl, gall ymgeisydd wneud apêl bellach o fewn 14 diwrnod i’r Panel Apeliadau Benthyciadau Rhanbarthol.  Bydd y Panel Apeliadau Benthyciadau yn eistedd o fewn 28 diwrnod ar ôl i’r ail apêl hon gael ei chyflwyno.  Gall ymgeisydd fynychu’r Panel Apeliadau Benthyciadau i gyflwyno’i achos.

    Bydd y Panel Apeliadau Benthyciadau yn hysbysu’r ymgeisydd yn ysgrifenedig o fewn saith diwrnod i’w benderfyniad.

    Nid oes apêl bellach.

    11.0 AD-DALU’R BENTHYCIAD

    Bydd pob benthyciad a delir dan y cynllun hwn yn ad-daladwy.

    Pan fo’r benthyciad a gymeradwywyd yn “Fenthyciad i Werthu Eiddo” bydd y benthyciad yn ad-daladwy ar ôl gwerthu’r eiddo neu erbyn y dyddiad a nodir yn y Cytundeb Benthyciad (hyd at 2 flynedd).

    Pan fydd y benthyciad a gymeradwywyd yn “Fenthyciad i Osod Eiddo” bydd y benthyciad yn ad-daladwy erbyn y dyddiad a nodwyd yn y Cytundeb Benthyciad (hyd at 3 blynedd), oni bai y cafwyd gwared ar yr eiddo yn gynt na hynny neu fod unedau’r eiddo wedi’u rhannu a bod pob un ohonynt wedi cael eu gwerthu ar yr un diwrnod.

    Pan fydd yr eiddo wedi’i addasu yn unedau a bod un neu fwy o’r unedau yn cael eu gwaredu (cyn y dyddiadau penodol a bennwyd dan delerau’r Cytundeb Benthyciad), yna wrth gael gwared â phob uned, bydd rhaid i’r ymgeisydd dalu’r swm lleiaf o’r elw gros sy’n deillio o werthu’r eiddo ynghyd â swm y benthyciad sy’n weddill.

    Os, ar ôl cael gwared â’r eiddo, bod arian dal yn ddyledus dan y benthyciad, bydd rhaid i’r ymgeisydd ad-dalu’r arian hwnnw p’un bynnag a ddigwydd yn gyntaf, sef naill ai cael gwared ar yr uned olaf neu’r dyddiad perthnasol a nodir yn y Cytundeb.

    Enghraifft “Benthyciad i Osod Eiddo”:

    Mae Mr Smith yn benthyg £150,000 i adnewyddu tŷ mawr a’i droi’n chwe fflat. Ar ôl i Gyngor Caerdydd gymeradwyo’r benthyciad ar 2 Ionawr 2013, Mae Mr Smith yn bwriadu gosod y fflatiau i denantiaid ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau. Mae’r gwaith wedi’i gwblhau ar 1 Mawrth 2013 ac yn fuan wedyn mae Mr Smith yn dechrau gosod yr holl fflatiau i denantiaid.

    Fodd bynnag, ar ôl ychydig, mae Mr Smith yn penderfynu nad yw bellach am osod yr holl fflatiau. Felly, mae’n gwerthu un o’r fflatiau ar 1 Gorffennaf 2013 am £100,000. Ar y dyddiad hwnnw rhaid i Mr Smith ad-dalu £100,000 i Gyngor Caerdydd. Yna mae Mr Smith yn gwerthu un arall o’r fflatiau ar 1 Rhagfyr 2013 am £110,000. Ar 1 Rhagfyr 2013, rhaid i Mr Smith dalu i Gyngor Caerdydd y balans cyfalaf sy’n weddill o’r benthyciad, sef £50,000.

    Pe na bai Mr Smith wedi gwerthu’r ail fflat, ond wedi parhau i’w osod a gweddill yr eiddo, byddai wedi gorfod talu’r £50,000 ar 2 Ionawr 2016 (uchafswm o 3 blynedd ar ôl cymeradwyo’r benthyciad).

    Pe bai Mr Smith yn lle hynny wedi gwerthu’r holl fflatiau ar 1 Gorffennaf 2013, yna byddai wedi gorfod ad-dalu £150,000 ar y dyddiad hwnnw, hyd yn oed pe na bai cyfanswm yr holl enillion o werthu’r holl fflatiau wedi dod i £150,000.

    Pe bai Mr Smith, yn hytrach na gwerthu unrhyw un o’r fflatiau, wedi parhau i osod yr holl fflatiau, yna byddai wedi gorfod ad-dalu £150,000 i Gyngor Caerdydd ar 2 Ionawr 2016.

    12.0 LLOG BENTHYCIAD

    Mae’r benthyciad yn ddi-log, ond os torrir amodau’r benthyciad, bydd Cyngor Caerdydd yn codi llog ar y Gyfradd Genedlaethol Safonol sydd mewn grym ar adeg y benthyciad, sef 6.0% ar hyn o bryd.

    Pan fo rhaid talu unrhyw swm, ond na chaiff hwnnw ei ad-dalu yn unol ag amodau’r benthyciad, bydd amodau’r cytundeb wedi’u torri a gall Cyngor Caerdydd fynnu bod y benthyciad yn cael ei ad-dalu ar unwaith ynghyd ag unrhyw log sydd arno.

    13.0 AD-DALU AR ÔL TORRI AMODAU

    Pan fydd amodau benthyciad yn cael eu torri, bydd rhaid ad-dalu unrhyw fenthyciad sy’n weddill i Gyngor Caerdydd .

    O ran benthyciad i werthu eiddo, os nad yw’r eiddo ar gael i’w werthu cyn pen 12 wythnos o’r dyddiad cwblhau a bennwyd ar gyfer y gwaith hwnnw (neu’r dyddiad i’w gytuno arno ar gyfer y cynllun Troi Tai’n Gartrefi, os yw’r dyddiad hwnnw’n gynt), ystyrir bod amodau’r benthyciad wedi cael eu torri.

    Yn achos benthyciad i osod eiddo, os nad yw’r eiddo ar gael i’w osod cyn pen 12 wythnos o’r dyddiad cwblhau a bennwyd ar gyfer y gwaith hwnnw, ystyrir bod amodau’r benthyciad wedi cael eu torri.

    14.0 AIL FENTHYCIADAU

    Os yw person eisoes wedi derbyn benthyciad, caniateir ail fenthyciad neu fenthyciad dilynol ar yr amod na chaiff unrhyw ymgeisydd feddu ar fenthyciadau a ddyfernir drwy’r Fenter Eiddo Gwag Troi Tai’n Gartrefi i werth o fwy na £150,000 ar unrhyw un adeg.

    Bydd gofyn i ymgeiswyr hefyd ddangos eu bod wedi cwblhau gwaith sy’n ymwneud â’u cais am y benthyciad cyntaf ac wedi marchnata’n llwyddiannus a naill ai ‘gosod’ neu ‘werthu’ yr eiddo cyn i ail gais am fenthyciad gael ei weinyddu.

    Gweithdrefn Safonau Gwasanaeth ar gyfer Benthyciadau

    Cynhyrchwyd y safonau hyn i:

    • Roi gwybod i’n cwsmeriaid am y safonau a’r lefel o wasanaeth y gallant eu disgwyl gennym ni.
    • Sicrhau yr ymdrinnir â phob ymholiad / cais ar sail gyfartal.

    Gweithdrefn a Safonau Gwasanaeth

    Ar ôl derbyn ymholiad, o fewn pythefnos bydd e-bost/llythyr cydnabod ymholiad benthyciad yn cael ei anfon at y darpar ymgeisydd benthyciad gan gynnwys pecyn cais am fenthyciad, a fydd yn cynnwys gwybodaeth am y Fenter a ffurflen gais.

    Bydd archwiliad o’r eiddo yn cael ei gynnal fel rhan o’r asesiad o’r cais am fenthyciad.

    Ar ôl derbyn cais am fenthyciad wedi’i gwblhau, h.y. ffurflen gais a’r holl ddogfennau pellach a restrir yn adran 4 uchod, cyn belled bod y rhain yn foddhaol, bydd yr ymgeisydd yn derbyn cynnig o fenthyciad o fewn 10 wythnos.

    Os derbynnir cynnig o fenthyciad, anfonir taliad o’r benthyciad (ar ôl tynnu’r ffi ymgeisio)o fewn pedwar diwrnod gwaith ar ddeg i Wasanaethau Cyfreithiol y Cyngor yn cadarnhau bod y Pridiant/Pridiannau Cyfreithiol wedi’u cofrestru.

    Gwaith nas rhagwelwyd – lle mae gwaith annisgwyl yn codi yn ystod y gwaith a wneir gyda’r benthyciad, bydd penderfyniad (a all gynnwys ymweliad safle) ynghylch a yw’r gwaith i gael ei gynnwys, yn cael ei wneud o fewn pum diwrnod gwaith, ar ôl derbyn amcangyfrifon.

    Ar ôl talu’r benthyciad, bydd gofyn i ymgeiswyr ddarparu diweddariadau chwarterol i Gyngor Caerdydd ar gynnydd y gwaith a darparu dyddiadau cwblhau gwaith a’r dyddiad y mae’r eiddo wedi’i rentu neu ei werthu.

    Bydd gweinyddwr Troi Tai’n Gartrefi yn ysgrifennu atoch 12 wythnos cyn y bydd benthyciad yn cael ei ad-dalu er mwyn sicrhau eich bod wedi gwneud y trefniadau angenrheidiol i ad-dalu’r benthyciad yn llawn.

    Gall methu â chydymffurfio â thelerau’r benthyciad roi eich eiddo a gynigir fel gwarant mewn perygl.

    Gweithdrefn Asesu Risg ar gyfer Benthyciadau Eiddo Gwag

    Pryd bynnag y caiff arian ei fenthyg, mae elfen o risg os na chaiff y benthyciad ei ad-dalu, neu os nad yw’r prosiect wedi’i gwblhau.   Felly, byddai’n methu â chyfrannu at y fenter eiddo gwag.   Er mwyn sicrhau bod y risgiau hyn yn cael eu lleihau, lluniwyd y weithdrefn asesu risg ganlynol, a bydd pob cynllun yn cael ei werthuso yn ei herbyn i bennu lefel y risg.  Ni fydd unrhyw gynllun lle y gwerthusir y risg fel un sydd yn y categori risg uchel yn cael ei ystyried yn briodol ar gyfer benthyciad gan Gyngor Caerdydd.

    Bydd y Gweinyddwr Troi Tai’n Gartrefi yn croesawu’r cyfle i drafod unrhyw gais arfaethedig gyda’r perchnogion / datblygwyr eiddo gwag, ond ni roddir unrhyw ymrwymiad i gymeradwyo cais nac ymrwymo cyllid nes bod cais wedi’i gwblhau wedi dod i law ac wedi’i werthuso yn erbyn y weithdrefn asesu risg ganlynol.

    Bydd yr holl geisiadau’n cael eu harchwilio i ddechrau gan y Gweinyddwr Troi Tai’n Gartrefi perthnasol.  Bydd hyn i gadarnhau:-

    • bod yr eiddo wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy;
    • y gellir cwblhau’r gwaith / trosi o fewn amserlen i fodloni targed y Fenter; a
    • cedwir cymeradwyaethau a / neu gydsyniadau (os oes rhai) sy’n ofynnol i ymgymryd â’r gwaith / trosi.

    Risg Cyflenwi

    Er mwyn lleihau’r risg cyflenwi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd am fenthyciadau fodloni’r meini prawf canlynol cyn y bydd eu cais yn cael ei ystyried:-

    1. Mae’r eiddo sy’n gysylltiedig â’r cais am fenthyciad wedi’i gaffael / eisoes yn berchen i’r ymgeisydd.
    2. Mae’r holl ganiatadau gofynnol ar gyfer y gwaith / trosi wedi’u cymeradwyo; bydd y rhain yn cynnwys caniatâd cynllunio llawn, cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu, caniatâd adeilad rhestredig ac ardal gadwraeth, lle bo hynny’n berthnasol.
    3. Cadarnhad nad oes unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol na chyfamodau cyfyngu ar yr eiddo a fyddai’n atal y gwaith / trosi arfaethedig rhag cael ei wneud.
    4. Mae unrhyw ofyniad am ymchwiliad tir halogedig wedi’i gynnal, a lle bo angen unrhyw waith adfer, cytunwyd ar y rhain gyda’r swyddog tir halogedig perthnasol.

    Unwaith y bydd y meini prawf uchod wedi’u bodloni, caiff y cais ei asesu yn erbyn yr asesiad risg ariannol canlynol, sy’n seiliedig ar fanylion yr achos busnes a ddarparwyd ar y ffurflen gais, i benderfynu a ddylid cymeradwyo’r cais.  Bydd pob un o’r cwestiynau a restrir isod yn cael sgôr a bydd y sgorau unigol hyn yn cael eu hadio i roi sgôr gyffredinol, a fydd wedyn yn gosod y cais mewn categori uchel, canolig neu isel.  Ni fydd y ceisiadau hynny a sgoriwyd fel rhai risg uchel yn cael eu cymeradwyo, a rhoddir blaenoriaeth i’r ceisiadau hynny a sgoriwyd fel rhai risg isel.

    Asesiad Risg

     
    Categori risg Pwyntiau
    Isel Hyd at 10
    Canolig Rhwng 10 a 50
    Uchel Dros 50

    1. Statws Credyd?

    Bydd pob person/cwmni sy’n cyflwyno cais yn destun gwiriad credyd.

     
    Risg Sgôr
    Gwiriad credyd boddhaol / nid oes angen gwiriad credyd 0
    Gwiriad credyd anfoddhaol 50

    2. Cynllun Busnes

     
    Risg Sgôr
    Mae’r ymgeisydd wedi darparu cynllun busnes boddhaol i ddangos bod y cynllun eiddo gwag arfaethedig yn ymarferol yn ariannol 0
    Nid yw cynllun busnes yr ymgeisydd yn  dangos bod y cynllun eiddo gwag arfaethedig yn ymarferol yn ariannol 50

    3. Swm y benthyciad y gwneir cais amdano?

     
    Risg Sgôr
    Hyd at £50,000 1
    Rhwng £50,001 a £100,000 5
    Rhwng £100,001 a £150,000 10

    4. Canran benthyciad(au) i werth eiddo[1]?

     
    Risg Sgôr
    Nid yw swm y benthyciad arfaethedig ac unrhyw fenthyciad / morgais presennol ar yr eiddo yn fwy na 50% o werth yr eiddo 1
    Mae swm y benthyciad arfaethedig ac unrhyw fenthyciad / morgais presennol ar yr eiddo rhwng 51% ac 80% o werth yr eiddo 5
    Mae swm y benthyciad arfaethedig ac unrhyw fenthyciad / morgais presennol ar yr eiddo rhwng 81% a 100% o werth yr eiddo 10

    5. Cyfnod arfaethedig y benthyciad

     
    Risg Sgôr
    Hyd at 24 mis 5
    Rhwng 25 a 36 mis 10

    6. Darparu geirdaon
    Gofynnir i bob ymgeisydd ddarparu, lle y bo’n bosibl, dystiolaeth o ddau fath tebyg o gynlluniau i’r un a gynigir yn y cais presennol wedi’u cwblhau’n llwyddiannus.

     
    Risg Sgôr
    Darparwyd geirdaon boddhaol 0
    Dim geirdaon ar gael 5

    Cyfanswm y Pwyntiau

    [1] Bydd angen dogfen brisio RICS ar bob eiddo sy’n destun cais am fenthyciad, oni bai bod y Cyngor wedi nodi fel arall

    SAFON TROI TAI’N GARTREFI

    Maen Prawf A:  Mae’n bodloni’r safonau gofynnol statudol cyfredol ar gyfer tai

    I fod yn addas, dylai annedd fod yn rhydd o beryglon categori 1 fel y’u haseswyd drwy’r System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (SMIDT).

    Maen Prawf B:  Mae mewn cyflwr rhesymol

    Mae annedd yn bodloni’r maen prawf hwn oni bai:

    • mae un neu fwy o gydrannau allweddol yr adeilad yn hen ac, oherwydd eu cyflwr, mae angen eu disodli neu wneud gwaith atgyweirio sylweddol arnynt; neu
    • mae dwy neu fwy o gydrannau eraill yr adeilad yn hen ac, oherwydd eu cyflwr, mae angen eu disodli neu wneud gwaith atgyweirio sylweddol arnynt.

    Dim ond drwy fod yn hen a bod angen ei disodli neu wneud gwaith atgyweirio sylweddol arni y gall cydran o adeilad fethu â bodloni’r maen prawf hwn.  Ni all cydran fethu’r maen prawf hwn yn seiliedig ar oedran yn unig.

    Cydrannau adeilad

    Cydrannau adeilad yw rhannau strwythurol annedd (e.e. strwythur wal, strwythur y to), elfennau allanol eraill (e.e. gorchudd to, simneiau) a gwasanaethau ac amwynderau mewnol (e.e. ceginau, systemau gwresogi).

    Cydrannau allweddol adeilad yw’r rheini, a allai, os ydynt mewn cyflwr gwael, gael effaith uniongyrchol ar yr adeilad cyfan ac achosi dirywiad pellach mewn cydrannau eraill.

    Y rhain yw’r cydrannau allanol ynghyd â chydrannau mewnol sydd â goblygiadau diogelwch posibl ac maen nhw’n cynnwys:

    • waliau allanol;
    • strwythur a gorchudd to;
    • ffenestri / drysau;
    • simneiau;
    • boeleri gwres canolog;
    • tanau nwy;
    • stôr-wresogyddion;
    • plymio; a
    • trydan

    Nid ystyrir bod lifftiau’n elfen allweddol oni bai bod y lifft neu’r siafftiau lifft yn cael effaith uniongyrchol ar yr adeilad cyfan.

    Os oes unrhyw un o’r cydrannau hyn yn hen ac angen eu disodli, neu os oes angen gwneud gwaith atgyweirio sylweddol ar unwaith arnynt, yna nid yw’r annedd mewn cyflwr rhesymol.

    Cydrannau eraill adeilad yw’r rhai sy’n cael effaith llai uniongyrchol ar yr annedd cyfan.  Felly, rhaid ystyried eu heffaith gyfunol, gydag annedd nad yw mewn cyflwr rhesymol os yw dwy gydran neu fwy yn hen ac angen eu disodli neu os oes angen gwneud gwaith atgyweirio sylweddol ar unwaith arnynt.

    Hen ac mewn cyflwr gwael

    Diffinnir cydran fel ‘hen’ os yw’n hŷn na’i hoes safonol.  Mae cydrannau mewn cyflwr gwael os oes angen gwneud gwaith mawr arnynt, naill ai eu disodli’n gyfan gwbl neu wneud gwaith atgyweirio sylweddol arnynt.

    Rhaid i un neu fwy o gydrannau allweddol, neu ddwy neu fwy o gydrannau eraill, fod yn hen ac mewn cyflwr gwael i olygu nad yw’r annedd yn addas ar y sail ei fod wedi mynd yn adfail. Ni fyddai cydrannau sy’n hen ond sydd mewn cyflwr da neu mewn cyflwr gwael ond ddim yn hen, ynddynt eu hunain, yn achosi i’r annedd fethu’r safon.

    Mae cydran o adeilad, sy’n gofyn am gael ei disodli cyn iddi gyrraedd ei hoes ddisgwyliedig, wedi methu’n gynnar.  O dan delerau’r diffiniad, nid yw’r methiant cynnar hwn yn golygu nad yw’r annedd yn addas.

    Maen Prawf C:  Mae’n cynnwys cyfleusterau a gwasanaethau cymharol fodern

    Ystyrir nad yw annedd yn bodloni’r maen prawf hwn os nad oes ganddo dri neu fwy o’r canlynol:

    • cegin sy’n 20 oed neu ieuengach;
    • cegin gyda digon o le a chynllun digonol;
    • ystafell ymolchi sy’n 30 oed neu ieuengach;
    • ystafell ymolchi a thoiled mewn lleoliad priodol;
    • inswleiddiad sŵn allanol digonol; a
    • maint a chynllun digonol ar fannau mynediad cyffredin ar gyfer blociau o fflatiau.

    Byddai cegin sy’n methu ar sail dim digon o le a chynllun annigonol yn un a fyddai’n rhy fach i gynnwys yr holl eitemau gofynnol (sinc, cypyrddau, lle i bopty, gweithfannau ac ati) sy’n briodol i faint yr annedd.

    Mae ystafell ymolchi a thoiled sydd mewn lleoliad amhriodol yn golygu bod y brif ystafell ymolchi neu’r toiled wedi’u lleoli mewn ystafell wely neu fod mynediad drwy ystafell wely (oni bai nad yw’r ystafell wely’n cael ei defnyddio neu os yw’r annedd ar gyfer un person).   Byddai annedd hefyd yn methu os yw’r prif doiled tu allan neu wedi’i leoli ar lawr gwahanol i’r basn golchi dwylo agosaf, neu os bydd toiled heb fasn golchi dwylo yn agor i gegin mewn ardal amhriodol, er enghraifft wrth ymyl yr ardal paratoi bwyd.

    Byddai insiwleiddiad annigonol o sŵn allanol yn golygu problemau gyda thraffig (rheilffyrdd, ffyrdd ac awyrennau) neu sŵn ffatri, er enghraifft.

    Byddai maint a chynllun annigonol o ran ardaloedd mynediad cyffredin ar gyfer blociau o fflatiau yn golygu nad oes digon o le i symud yn hawdd, er enghraifft, ardaloedd mynediad cul gyda chorneli a throadau lletchwith, grisiau serth, pen grisiau annigonol, diffyg rheiliau llaw, dim digon o le uwchben ac ati.

    Mewn rhai achosion, efallai y bydd ffactorau a allai wneud y gwelliannau sydd eu hangen i fodloni’r safon Troi Tai’n Gartrefi yn heriol neu’n amhosibl, ffactorau fel cyfyngiadau ffisegol neu gynllunio.    Pan fo ffactorau cyfyngol o’r fath yn digwydd, dylid asesu’r eiddo i bennu’r camau gweithredu mwyaf boddhaol mewn ymgynghoriad â’r corff neu’r asiantaeth berthnasol, er mwyn pennu’r ateb gorau.  Gall y canlyniad bennu y gallai rhai gwelliannau fod yn bosibl hyd yn oed os nad yw pob un ohonynt yn bosibl.

    Ni fyddai annedd yn methu’r maen prawf hwn, lle mae’n amhosibl gwneud y gwelliannau gofynnol i gydrannau am resymau ffisegol neu gynllunio.

    Maen Prawf Ch: Mae’n darparu cysur thermol digonol

    Mae’r diffiniad yn ei gwneud yn ofynnol i annedd gael gwres effeithlon; ac insiwleiddiad effeithiol.

    Diffinnir gwres effeithlon fel unrhyw wres canolog nwy neu olew, stôr-wresogyddion trydan, systemau aer cynnes, systemau dan y llawr, system gwres canolog tanwydd solet / LPG y gellir ei rhaglennu, neu systemau gwresogi yr un mor effeithlon sy’n cael eu datblygu yn y dyfodol.

    Rhaid i’r brif system wresogi fod â system ddosbarthu sy’n ddigonol i ddarparu gwres i ddwy ystafell neu fwy yn y cartref.  Efallai y bydd stôr-wresogyddion mewn dwy ystafell neu fwy, neu wresogyddion eraill sy’n defnyddio’r un tanwydd mewn dwy ystafell neu fwy.  Hyd yn oed os yw’r system gwres canolog yn cwmpasu’r rhan fwyaf o’r tŷ sy’n gwneud annedd yn addas, o dan y SMIDT dylai’r cartref fod yn ddigon cynnes i’r meddiannydd.

    Mae ffynonellau gwresogi sy’n darparu opsiynau llai effeithlon o ran ynni, yn methu’r safon Troi Tai’n Gartrefi.

    Systemau gwresogi y gellir eu rhaglennu  yw rhai lle gall y meddiannydd reoli amser a thymheredd y gwres.

    Oherwydd y gwahaniaethau mewn effeithlonrwydd rhwng systemau gwresogi nwy / olew a’r systemau gwresogi eraill a restrir, mae’r lefel insiwleiddio sy’n briodol hefyd yn wahanol –

    • Ar gyfer anheddau sydd â systemau gwres nwy / olew y gellir eu rhaglenni, mae inswleiddiad waliau ceudod (os oes waliau ceudod y gellir eu hinswleiddio’n effeithiol) ac o leiaf 50mm o inswleiddiad atig (os oes lle atig) yn becyn inswleiddio effeithiol.
    • Ar gyfer anheddau sy’n cael eu gwresogi gan stôr-wresogyddion trydan / system gwres canolog tanwydd solet / LPG y gellir ei rhaglennu, mae angen manyleb  insiwleiddio uwch: o leiaf 200mm o insiwleiddiad atig (os oes atig) ac inswleiddiad waliau ceudod (os oes waliau ceudod y gellir eu hinswleiddio’n effeithiol).

    Mae sgôr gweithdrefn asesu safonol – tai (GAS) o lai na 35 (gan ddefnyddio methodoleg GAS 2001) wedi’i sefydlu fel procsi ar gyfer presenoldeb tebygol perygl Categori 1 o oerfel gormodol.

    C. Beth yw Benthyciadau Eiddo Gwag?

    Mae Benthyciadau Eiddo Gwag yn fenthyciadau sydd ar gael drwy’r Fenter Troi Tai’n Gartrefi i alluogi adnewyddu a gwella eiddo unigol neu drosi eiddo gwag yn nifer o unedau, fel eu bod yn addas i’w defnyddio fel llety preswyl.

    C. Pwy all wneud cais am fenthyciad?

    Gall unigolion a chwmnïau wneud cais am fenthyciad, os ydynt eisoes yn berchen ar eiddo gwag neu’n ystyried prynu eiddo gwag yng Nghaerdydd.

    C. Am ba hyd y mae’n rhaid i eiddo fod wedi bod yn wag cyn y gallaf wneud cais am fenthyciad?

    Dim ond ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am o leiaf chwe mis neu fwy y gellir rhoi benthyciadau.

    C. A oes rhaid i’r eiddo fod yn annedd sy’n bodoli eisoes i fod yn gymwys i gael benthyciad?

    Na. Byddwn yn ystyried ceisiadau am fenthyciadau i droi eiddo masnachol gwag yn llety preswyl.  Fodd bynnag, mae’n debygol iawn y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer y newid ac felly fe’ch anogir yn gryf i gysylltu â’r adran gynllunio leol i drafod eich cynigion.  Byddwn ond yn ystyried cais am fenthyciad os rhoddwyd y caniatâd cynllunio perthnasol.

    C. Beth yw uchafswm y benthyciad y gallaf wneud cais amdano?

    Uchafswm y benthyciad y gallwch wneud cais amdano yw £25,000 fesul eiddo neu uned, hyd at uchafswm o £150,000, fesul ymgeisydd.    Os ydych yn gwneud cais am fenthyciad i drosi un adeilad yn bedair uned, uchafswm y benthyciad y gallwch wneud cais amdano yw £100,000.  Pe baech yn gwneud cais am fenthyciad i droi eiddo’n ddeg uned, uchafswm y benthyciad fyddai £150,000.  Bydd swm gwirioneddol y benthyciad a gaiff ei gymeradwyo yn dibynnu ar gost wirioneddol y gwaith, e.e. os cyfrifir bod y gwaith yn costio £10,000 dyma’r uchafswm y bydd y benthyciad yn cael ei gymeradwyo ar ei gyfer.

    Noder na all unrhyw fenthyciad a gynigir, gan ystyried unrhyw forgais cyfredol, fod yn fwy nag 80% o werth cyfredol yr eiddo.  Felly, os oes gennych forgais o £65,000 ar eiddo sydd â gwerth cyfredol ar y farchnad o £100,000, yna uchafswm y benthyciad y gellir ei gymeradwyo yw £15,000.

    Gwerth Cyfredol – £100,000

    Morgais a Benthyciad – £65,000 a £15,000 = £80,000 (Uchafswm o 80% Benthyciad i werth)

    Mae’n bosibl mewn achosion eithriadol i eiddo arall gael ei ddefnyddio fel gwarant ar gyfer y benthyciad.

    Os yw cost y gwaith yn fwy na gwerth y benthyciad, yna rhaid i’r ymgeisydd allu dangos bod ganddo ddigon o arian i gwblhau’r datblygiad (cyfeirir at hyn fel cronfa ddiffyg).

    C. Beth sydd gennyf i’w wneud â’r eiddo neu’r unedau ar ôl cwblhau’r gwaith?

    Gallwch naill ai osod/rhentu’r eiddo/unedau neu gallwch werthu’r eiddo/unedau i berchennog newydd. Nid oes benthyciadau ar gael i bobl sydd am adnewyddu’r eiddo a byw ynddo fel eu prif gartref, neu fel llety gwyliau neu i’w gosod gyda gwasanaeth/byr dymor.

    C. A oes rhaid gwneud y gwaith/trosi i unrhyw fath o safonau?

    Oes. Rhaid i’r holl waith gael ei wneud yn unol ag unrhyw ganiatâd cynllunio neu gymeradwyaethau rheoliadau adeiladu a wneir mewn perthynas â’r eiddo.  Yn ogystal, rhaid i’r eiddo / unedau gydymffurfio â’r Safon Troi Tai’n Gartrefi ar ôl cwblhau’r gwaith.  Ceir rhagor o fanylion am y safon yn y llyfryn gwybodaeth am fenthyciadau neu cysylltwch â’r Gweinyddwr Troi Tai’n Gartrefi i gael eglurhad.

    C. A oes unrhyw amodau ynghlwm wrth gymeradwyo’r benthyciad?

    Oes: –

    • Rhaid i chi wneud y gwaith trosi / atgyweirio o fewn cyfnod o amser y cytunwyd arno.
    • Rhaid marchnata’r eiddo/unedau i’w gwerthu neu i’w gosod/rhentu o fewn cyfnod rhesymol o amser ar ôl cwblhau’r gwaith (12 wythnos).  Os yw’r eiddo / unedau ar gael i’w rhentu ac nad ydynt yn cael eu meddiannu o fewn y cyfnod hwn, yna gallai fod angen ad-dalu’r benthyciad.
    • Rhaid i’r benthyciad gael ei ad-dalu naill ai ar neu cyn y dyddiad a nodir yn eich Cytundeb Benthyciad.
    • Gwneir pridiant ariannol ar yr eiddo am oes y benthyciad.
    • Mae rhagor o wybodaeth am yr amodau ar gael yn y llyfryn gwybodaeth am fenthyciadau neu cysylltwch â Gweinyddwr Troi Tai’n Gartrefi i gael eglurhad pellach.

    C. A yw’r benthyciadau’n fenthyciadau sydd wedi’u gwarantu?

    Ydynt. Rhaid i’r holl fenthyciadau a gymeradwyir gael eu gwarantu gan bridiant ariannol cyntaf neu ail bridiant ariannol yn cael ei warantu yn erbyn yr eiddo.    Os oes morgais ar yr eiddo bydd angen caniatâd y benthycwyr arnom i warantu ein pridiant.

    C. Mae gennyf ddiddordeb mewn gwneud cais am fenthyciad, beth ddylwn i ei wneud nesaf?

    Ffoniwch eich Gweinyddwr Troi Tai’n Gartrefi ar 07971 610679 am drafodaeth fer, er mwyn canfod a allwn fod o gymorth, neu e-bostiwch troitaingartrefi@caerdydd.gov.uk  Bydd angen i chi roi manylion ar gyfer y canlynol

    • Eich enw, cyfeiriad a’ch manylion cyswllt
    • Cyfeiriad yr eiddo yr hoffech wneud cais am fenthyciad ar ei gyfer
    • Gwerth presennol yr eiddo a swm unrhyw forgais.
    • Crynodeb byr o’r gwaith sydd i’w wneud
    • Cost ddisgwyliedig y gwaith
    • Sawl uned o lety y bydd y gwaith trosi / adnewyddu yn ei ddarparu ar ôl i’r eiddo gael ei gwblhau
    • A fydd yr eiddo / unedau yn cael eu rhoi ar werth neu’n cael eu gosod ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau
    • Sut fydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu

    C. Beth yw’r gyfradd llog ar gyfer y benthyciad?

    Mae’r benthyciadau’n ddi-log, ar yr amod nad oes diffygdaliad ar y benthyciad.

    Pan fo rhaid talu unrhyw swm, ond na chaiff hwnnw ei ad-dalu yn unol ag amodau’r benthyciad, bydd amodau’r cytundeb wedi’u torri.  Mewn achosion o’r fath gall Cyngor Caerdydd fynnu bod y benthyciad, ynghyd â’r llog ar y gyfradd safonol genedlaethol, yn cael ei ad-dalu ar unwaith.

    C. Pryd fydd rhaid i mi ad-dalu’r benthyciad?

    Bydd hyn yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud gyda’r eiddo ar ôl cwblhau’r gwaith –

    • Os ydych yn adnewyddu eiddo unigol, sydd i’w werthu (Benthyciad i Werthu Eiddo), rhaid ad-dalu’r benthyciad pan gaiff yr eiddo ei werthu neu o fewn dwy flynedd o ddyddiad cymeradwyo’r benthyciad, pa un bynnag yw’r cynharaf.
    • Os ydych yn trosi eiddo yn nifer o unedau, sydd i’w gwerthu ar ôl cwblhau’r gwaith (Benthyciad i Werthu Eiddo), disgwylir i’r benthyciad gael ei ad-dalu wrth werthu’r uned gyntaf, neu o fewn dwy flynedd, pa un bynnag yw’r cynharaf.
    • Os bydd yr eiddo / unedau yn cael eu gosod (Benthyciad i Osod Eiddo), rhaid ad-dalu’r benthyciad o fewn 3 blynedd o ddyddiad cymeradwyo’r benthyciad (oni bai bod gwarediad cynharach o’r eiddo neu’r unedau o fewn yr eiddo).
    • Gellir ad-dalu’r holl fenthyciadau yn gynharach os yw’r ymgeisydd yn dymuno gwneud hynny.

    C. Sut ydw i’n cael rhagor o wybodaeth am y cynllun benthyciadau?

    Bydd pawb sy’n gwneud ymholiad yn derbyn pecyn cais Troi Tai’n Gartrefi a fydd yn cynnwys:-

    • Llyfryn Gwybodaeth Troi Tai’n Gartrefi
    • Ffurflen Gais Benthyciad Eiddo Gwag
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Taflen Wybodaeth TAW
    • Llythyr Templed Caniatâd gan y Benthyciwr Cyntaf

    Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni. Mae’r hysbysiad gwybodaeth hwn yn esbonio pa ddata personol a gasglwn gennych chi a sut rydym yn ei ddefnyddio.  Darllenwch y wybodaeth isod ac, os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

    Pam ydyn ni’n prosesu eich gwybodaeth bersonol?

    Rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol, gan gynnwys categorïau arbennig o wybodaeth bersonol, mewn cysylltiad ag ymateb i unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb a phrosesu unrhyw gais am fenthyciad y gallech ei gyflwyno drwy’r Cynllun Troi Tai’n Gartrefi.

    Rydym yn prosesu’r wybodaeth hon naill ai oherwydd ei bod yn angenrheidiol i ni wneud hynny er mwyn rheoli eich cais am fenthyciad, neu oherwydd bod cyfreithiau sy’n caniatáu i ni, neu sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni, ei phrosesu.  Os na roddwch y wybodaeth hon i ni, ni fyddem yn gallu gweinyddu eich cais am fenthyciad na darparu’r gwasanaethau o dan eich cytundeb benthyciad dilynol a’ch tâl cyfreithiol (os yw eich cais yn llwyddiannus).

    Wrth brosesu eich cais, efallai y bydd angen i ni ymdrin â thrydydd partïon, megis cyfreithwyr, cynghorwyr ariannol, banciau, syrfewyr prisio a chontractwyr, ar faterion o’r fath gan gynnwys cael caniatâd benthyciwr a thrafod tâl cyfreithiol y cyngor, cadarnhau gwerth yr eiddo gwag a chwmpas y gwaith sydd i’w wneud.

    Efallai y bydd angen i ni hefyd ymdrin ag adrannau mewnol y cyngor (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r adran Gyfreithiol, Cyllid, Treth Gyngor, Ardrethi Busnes), Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir a sefydliadau sector cyhoeddus eraill, megis Llywodraeth Cymru.

    Y math o wybodaeth bersonol a gasglwn

    Ar hyn o bryd rydym yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth bersonol ganlynol, ond nid yw’n gyfyngedig i:

    Dynodwyr personol:

    • Teitl, enw cyntaf a chyfenw
    • Manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn
    • Rhif yswiriant gwladol
    • Dyddiad geni

    Categori Arbennig (dewisol):

    • Rhyw
    • Cyfeiriadedd Rhywiol
    • Cred crefyddol
    • Ethnigrwydd
    • Statws Priodasol / Partneriaeth Sifil
    • Ieithoedd sy’n cael eu siarad
    • Anabledd

    Gwybodaeth arall:

    • Statws preswyl
    • Statws cyflogaeth
    • Gwybodaeth am feddiannaeth a manylion cyswllt cyflogwr
    • Incwm blynyddol / Incwm rheolaidd arall
    • Manylion y cwmni (os yw’n berthnasol) / manylion cofrestru TAW
    • Arbedion
    • Dinasyddiaeth

    Data sy’n benodol i’r cynllun:

    • Gwybodaeth am forgais / benthyciad presennol
    • Statws ariannol a manylion cyfrif banc
    • Manylion eiddo rhent sy’n berchen i chi’n bersonol neu’ch cwmni
    • Manylion ad-daliadau heb fenthyciad / achosion llys / CCJs / methdaliad (yn eich enw personol neu enw’ch cwmni)

    Sut rydym yn cael y wybodaeth bersonol, pam mae gennym, a sut rydym yn ei defnyddio

    Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth bersonol a gaiff ei phrosesu gennym yn cael ei rhoi’n uniongyrchol gennych chi am un o’r rhesymau canlynol:

    Cam Cais am Fenthyciad

    • Er mwyn i ni allu ymateb i ddatganiad o ddiddordeb yn y cynllun benthyciadau.
    • Er mwyn i ni sicrhau eich bod yn bodloni meini prawf y cynllun.
    • Er mwyn i ni allu prosesu eich cais am fenthyciad.
    • Er mwyn i ni allu cysylltu ag adrannau mewnol eraill wrth asesu eich cais am fenthyciad.

    Cam Cymeradwyo Benthyciad

    • Os bydd yn llwyddiannus, bydd eich cais yn cael ei roi i Dîm Cyfreithiol y cyngor, fel y gallant fwrw ymlaen â’r ddogfennaeth gyfreithiol a chyflwyno tâl cyfreithiol y cyngor.
    • Unwaith y bydd y benthyciad wedi’i dalu, byddwn yn cysylltu â chi bob chwarter i fonitro sut mae’r gwaith yn mynd rhagddo ac i gadarnhau dyddiad cwblhau’r gwaith a dyddiad meddiannu’r eiddo.
    • Byddwn hefyd yn cysylltu â chi 3 mis cyn y dyddiad cau ar gyfer ad-dalu’r benthyciad i gadarnhau faint o’r benthyciad sy’n weddill a threfniadau ad-dalu.

    Rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol, o’r ffynonellau canlynol yn yr amgylchiadau canlynol:

    • Efallai ein bod wedi derbyn atgyfeiriad o ffurflen ar-lein drwy wefan y cyngor.
    • Efallai ein bod wedi derbyn atgyfeiriad gan adran / sefydliad arall yn dilyn ymholiad gennych.

    Sefydliadau y gallwn rannu eich data personol â nhw

    Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gydag adrannau eraill o fewn Cyngor Caerdydd, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

    • Tîm Cyfreithiol Cyngor Caerdydd
    • Tîm Cyllid Cyngor Caerdydd
    • Treth Gyngor / Ardrethi Busnes
    • Tîm Cynllun Prydlesu’r Sector Preifat
    • Tîm Gorfodi Tai (Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir)

    Efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag asiantaethau allanol perthnasol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

    • Llywodraeth Cymru
    • Contractwyr
    • Arolygwyr
    • Priswyr
    • Eich cyfreithiwr
    • Eich benthyciwr / darparwr morgais

    Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich gwybodaeth bersonol

    Yn gyffredinol, bydd y sail gyfreithlon y byddwn yn dibynnu arni ar gyfer prosesu eich gwybodaeth bersonol yn un o’r canlynol:

    • GDPR y DU Erthygl 6 (1) (a) Rydych wedi rhoi caniatâd i ni brosesu eich cais.
    • GDPR y DU Erthygl 6 (1) (b) Rydych wedi ymrwymo i gontract gyda ni.
    • GDPR y DU Erthygl 6 (1) (f) Mae gennym ddiddordeb dilys i brosesu eich data.

    Sut rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol

    Caiff eich gwybodaeth ei storio’n ddiogel ar gronfeydd data a ddiogelir gan gyfrinair ar rwydwaith diogel gyda mynediad yn cael ei ganiatáu i staff sy’n gweithredu’r Cynllun Troi Tai’n Gartrefi.

    Byddwn yn cadw eich data personol am gyfnodau gwahanol o amser yn dibynnu ar yr hyn rydym yn ei ddefnyddio ar gyfer y canlynol:

    Ymholiadau Cyffredinol / Datganiadau o Ddiddordeb – a gedwir ar ffeil electronig am 6 mis.

    Ceisiadau Benthyciad Llwyddiannus – a gedwir ar ffeil electronig am 7 mlynedd, neu nes bod y benthyciad wedi’i ad-dalu’n llawn (fel sy’n berthnasol).

    Ceisiadau Benthyciad Aflwyddiannus – a gedwir ar ffeil electronig am 6 mis.

    Eich hawliau diogelu data

    Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy’n cynnwys:

    Eich hawl mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol.

    Eich hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy’n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.

    Eich hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol dan rai amgylchiadau.

    Eich hawl i gyfyngu ar brosesu – Dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.

    Eich hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol dan rai amgylchiadau.

    Eich hawl i gludadwyedd data – Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, dan rai amgylchiadau.

    Nid oes angen i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau.  Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.

    Cysylltwch â ni yn taiyngartrefi@caerdydd.gov.uk os ydych yn dymuno gwneud cais.

    Sut i gwyno

    Gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym wedi defnyddio eich data.  Cyfeiriad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

    Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
    Wycliffe House
    Water Lane
    Wilmslow
    Swydd Gaer
    SK9 5AF

    Rhif llinell gymorth:  0303 123 1113

    Gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: https://www.ico.org.uk

    Cysylltu â Diogelu Data –

    Cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r Cyngor i gael mwy o wybodaeth:

    Swyddog Diogelu Data
    Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
    Neuadd y Sir
    Glanfa’r Iwerydd
    Caerdydd
    CF10 4UW

    diogeludata@caerdydd.gov.uk

    Os hoffech drafod eich eiddo neu gael rhagor o wybodaeth neu eglurhad, cysylltwch â:

    Gweinyddwr Troi Tai’n Gartrefi
    Cyngor Caerdydd,
    Tîm Datblygu Tai,
    Ystafell 357,
    Neuadd y Sir,
    Caerdydd
    CF10 4UW

    Rhif ffôn: 07971 610679

    Email: troitaingartrefi@caerdydd.gov.uk