Pris prynu
108,500 - 70% o’r pris prynu (Pris 100% - £155,000)
Math yr Eiddo
Fflat 2 Ystafell Wely
Dyddiad olaf i wneud cais:
5.00pm, 06.05.25Cynigir fflat dwy ystafell wely fodern ail lawr wedi’i lleoli yn natblygiad poblogaidd Ffordd James, oddi ar Heol y Fferi yn Grangetown.
Yn agos at amwynderau lleol, gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog i ganol y ddinas, Bae Caerdydd, ffordd gyswllt yr A4232 a’r M4 ac o fewn pellter cerdded i Barc Manwerthu Heol y Fferi.
Mae’r eiddo hwn yn olau, yn awyrog ac wedi’i gyflwyno’n dda. Mae’n elwa ar fynediad drws diogel, ffenestri gwydr dwbl UPVC drwyddi draw, cyfuniad o loriau LVT, finyl a charped o ansawdd da, man byw cynllun agored mawr gyda drysau Ffrengig yn agor i falconi Juliet, cegin fodern a phrif ystafell ymolchi ill dau gyda ffenestri allanol, prif ystafell wely fawr gydag ensuite, ail ystafell wely o faint da, cwpwrdd cyfleustodau ar wahân ar gyfer peiriant golchi / sychu. Lle storio ardderchog gyda chypyrddau wedi’u gosod yn y ddwy ystafell wely, gwres canolog nwy, parcio wedi’i ddyrannu, gerddi cymunedol, teledu cylch cyfyng ar y safle a man storio beiciau cymunedol.
Manyleb Eiddo
Cyntedd — cyntedd eang gyda mynediad i gwpwrdd sychu gyda silffoedd uwchben y boeler, cwpwrdd cyfleustodau gyda pheiriant golchi wedi’i gysylltu, a chwpwrdd cotiau/esgidiau ychwanegol. Lloriau LTV drwyddi draw a lloriau finyl i’r cwpwrdd cyfleustodau.
Lolfa / Ardal Fwyta / Cegin (6.9m x 3.4m) – Man byw cynllun agored mawr gyda drysau Ffrengig yn agor i falconi Juliet. Lloriau LVT llwyd golau i’r lolfa/ardal fwyta.
Cegin – Cegin fodern lawn gyda chypyrddau pren golau arddull ‘shaker’ gyda theils wal niwtral a lloriau LVT llwyd golau. Nwyddau gwyn integredig gan gynnwys oergell-rewgell, peiriant golchi llestri, hob, popty a gwyntyll echdynnu uwch ei ben. Sbotoleuadau yn y nenfwd, ffenestri allanol gyda bleinds i aros.
Prif Ystafell Wely gydag Ensuite (3.2m x 2.92m ystafell wely yn unig) — Ystafell wely ddwbl fawr gyda charped niwtral a chwpwrdd dillad wedi’i osod. Polyn llenni i aros.
Ensuite (2m x 1.7m)— ensuite i’r brif ystafell wely gyda chiwbicl cawod amgaeedig, waliau teils niwtral, sbotleuadau yn y nenfwd, rheilen dyweli wedi’i chynhesu ar y wal a lloriau finyl. Drych i aros.
Ystafell wely 2 (3.6m x 2.58m) – ail ystafell wely o faint da gyda charped niwtral a chwpwrdd dillad wedi’i osod. Polyn llenni i aros.
Prif Ystafell Ymolchi (1.9m x 1.8m) — Ystafell ymolchi wen gyfoes gyda bath, teils wal niwtral, ffenestr allanol, gwyntyll echdynnu, sbotoleuadau yn y nenfwd â synhwyrydd symud a lloriau finyl. Drych ar y wal i aros.
Gerddi Cymunedol — lle awyr agored preifat i breswylwyr.
Parcio – 1 lle parcio penodol o flaen yr eiddo ac mae lle parcio arall oddi ar y stryd ar gael. Lle storio beiciau ar flaen y bloc fflatiau
Treth Gyngor — D
Tâl Gwasanaeth – £1992 y flwyddyn, sy’n cynnwys yswiriant adeilad, a chynnal a chadw’r ardd a’r ardal gymunedol.
Rhent Tir – £293 y flwyddyn.
Deiliadaeth – Les-ddaliad (999 mlynedd o 01.01.07)
Sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni — 83 (B) (Yn ddilys hyd at 27.01.35. Mae’r adroddiad llawn ar gael ar-lein yn www.gov.uk )
Mae’r holl loriau, nwyddau gwyn integredig, cypyrddau wedi’u gosod, goleuadau a bleinds fel y’u gwelir wedi’u cynnwys yn y gwerthiant.
Manylion Prynu
Gwerthir yr eiddo hwn fel ECWITI A RENNIR. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn prynu cyfran ecwiti o 70% dan Gynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd a bydd yn berchennog cofrestredig 100% ar yr eiddo ar gwblhau’r gwerthiant.
Bydd Cyngor Caerdydd yn cadw’r gyfran ecwiti o 30% sy’n weddill ar yr eiddo. Nid oes rhent yn daladwy ar y 30%.
PRIS
70% o’r pris prynu – £108,500
Pris 100% – £155,000
Gofyn am wylio
Mae’r gwylio’n digwydd 20/02/2025 (rhwng 5.00pm – 7.30pm).
Ffordd James McGhan, Grangetown, Caerdydd, CF11 7JU