Pris prynu
70% Pris Prynu - £133,000 | 100% Pris - £190,000
Math yr Eiddo
Tŷ 2 Ystafell Wely
Dyddiad olaf i wneud cais:
5.00pm, 18/06/25Ar gael mae tŷ pen rhes dwy ystafell wely modern wedi’i leoli yn Snowden Road, Trelái. Gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog â chanol y ddinas a’r M4, mae’r eiddo yn agos at Croes Cwrlwys, siopau lleol eraill a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Wedi’i adeiladu yn 2020, gydag adeiladwaith brics a bloc traddodiadol, mae’r eiddo pen rhes hwn yn ysgafn, yn eang ac wedi’i addurno i safon ardderchog. Mae’n elwa o lloriau finyl effaith derw trwy’r llawr gwaelod a lloriau finyl llwyd i’r tolied llawr gwaelod a’r brif ystafell ymolchi, pen staer a llawr cyntaf wedi’u carpedu, lolfa o faint da gyda drysau Ffrengig yn agor allan i ardd gefn gaeedig gyda phatio a mynediad ochr, cegin ac ardal fwyta gyda phopty a hob integredig, dwy ystafell wely ddwbl o faint da, prif ystafell ymolchi, system gwres canolog nwy boeler cyfunol gradd A, mesurau effeithlonrwydd ynni gan gynnwys dyfais adfer gwres dŵr gwastraff, bylbiau golau ynni isel a chyfyngiadau tap llif, storfa ragorol gan gynnwys cwpwrdd awyru a llofft, system canfod tân a charbon monocsid a chwistrellu wedi’i phweru gan y prif gyflenwad, gwydrau dwbl UPVC drwyddi draw, goleuadau diogelwch allanol i flaen a chefn yr eiddo ac un lle parcio.
Mae’r eiddo hefyd yn cydymffurfio â Chartrefi Gydol Oes, GAD ac Egwyddorion Diogelu drwy Ddylunio ac mae ganddo hefyd Warant Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai sy’n ddilys tan 2030.
Cyntedd — mynedfa eang gyda mynediad i doiled lawr grisiau, rheiddiadur wedi’i osod ar wal a chwpwrdd storio mawr. Lloriau finyl derw o ansawdd da.
Toiled (1.20m x 1.91m) — lloriau finyl llwyd gyda thoiled gwyn a basn llaw golchi. Ffenestr allanol sy’n agor allan i’r ardd gefn.
Lolfa (3.47m x 3.8m) – Lolfa eang i gefn yr eiddo gyda lloriau finyl effaith derw gyda drysau Ffrengig yn agor allan i’r ardd.
Cegin / Ystafell Fwyta (3.50m x 3.67m) – cegin lliw hufen o ansawdd wedi’i ffitio’n llawn gyda hob nwy integredig, popty trydan a ffan echdynnu uwchben, ynghyd â lle ar gyfer nwyddau gwyn. Lloriau finyl effaith derw o ansawdd da a 2 ffenestr allanol.
Pen Grisiau’r Llawr Cyntaf – mynediad i lofft a chwpwrdd storio mawr.
Ystafell ymolchi (2.10m x 1.91m) — Ystafell ymolchi wen gyfoes gyda bath a chawod uwchben, waliau teils lliw niwtral, lloriau finyl llwyd, drych a golau a ffenestr allanol.
Prif Ystafell Wely (5.52m (uchafswm) x 3.2m (uchafswm)) — Ystafell wely ddwbl fawr gyda charpedi niwtral, 2 rheiddiadur wedi’u gosod ar y wal a chwpwrdd storio mawr wedi’i adeiladu mewn. Y cwpwrdd dillad â drych sy’n sefyll yn rhydd i aros.
Ystafell wely 2 (3.31m (uchafswm) x 4.20m (uchafswm)) — ystafell wely ddwbl maint da gyda charpedi niwtral.
Llofft – mynediad i’r llofft o’r pen grisiau ar y llawr 1af gydag ysgol fetel blyg.
Gardd – Gardd gefn gaeëdig gyda phatio a mynediad i’r ochr. Mynediad o’r brif ardd i ofod gardd amgaeedig is. Sied yr ardd i aros.
Parcio – 2 le parcio penodedig o flaen yr eiddo, ynghyd â lle parcio arall oddi ar y stryd ar gael
Treth Gyngor – Band B
Deiliadaeth – RHYDD-DDALIAD
Sgôr TPY — 86 (B) (Adroddiad llawn ar gael ar-lein drwy https://find-energy-certificate.service.gov.uk/energy-certificate/2438-2001-7362-6980-3240 )
Bydd yr bolion llenni a bleindiau yn yr eiddo yn aros ac maent wedi’u cynnwys yn y pris gwerthu.
Manylion Pynnu
Gwerthir yr eiddo hwn fel ECWITI A RENNIR. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn prynu cyfran ecwiti o 70% dan Gynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd a bydd yn berchennog cofrestredig 100% ar yr eiddo ar gwblhau’r gwerthiant.
Bydd Cyngor Caerdydd yn cadw’r rhanberchnogaeth o 30% sy’n weddill ar yr eiddo. Nid oes rhent yn daladwy ar y 30%.