Trees at a road end. Road end needs refurbishing.
Funded by UK Government logo

Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig gwneud gwelliannau i ben caeëdig ffyrdd mewn 4 lleoliad yng Nglan-yr-afon fel rhan o Raglen y Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau.

Yn dilyn yr ymgysylltiad diweddar, mae Cyngor Caerdydd yn falch o rannu’r cynlluniau terfynol ar gyfer cau’r ffyrdd.

Bydd y gwelliannau’n cynnwys:

Littleton Street & Kingston Road

  • Rhoi wyneb newydd ar y llwybr troed
  • Tynnu gratiau coed a rhoi wyneb newydd y gellir ei ehangu yn eu lle, sy’n amddiffyn y coed i alluogi tyfiant gwreiddiau
  • Rhoi bolardiau newydd yn lle’r hen rai, gan gynnwys bolardiau beicffordd ‘defnydd a rennir’.

Wyndham Street & Craddock Street

  • Rhoi arwyneb newydd addurniadol i balmentydd.
  •  Plannu dwy goeden newydd ar Wyndham Street.
  • Amnewid bolardiau presennol gyda rhai newydd, gan gynnwys bolardiau beicffordd ‘defnydd a rennir’.
  • Tynnu planwyr sydd wedi’u difrodi a gosod dyluniadau ar gyfer gemau stryd trefol yn eu lle, wedi’u paentio ar yr ardaloedd palmant canolog.
  • Gwaith celf i’w roi ar gabinet cyfleustodau Craddock Street.

Get in touch

If you have any questions or concerns about this project, please contact us.





    Lleoliad