

Bydd Cyngor Caerdydd yn gwneud gwelliannau amgylcheddol i Ardal Siopa Heol Plasmawr fel rhan o Rhaglen y Cynllun Adfywio Cymdogaethau (CAC).
Mae’r gwelliannau’n cynnwys:
- 4 blwch plannu newydd
- Hysbysfwrdd cymunedol newydd
- Gosod bolardiau concrit newydd
- Gosod stand feiciau (gydag un ychwanegol ger y Fairwater Fish Bar)
- Ailosod arwyddion ffyrdd
- Adnewyddu marciau priffyrdd (system unffordd / mannau parcio / man parcio i bobl anabl)
Diolch am gyflwyno eich sylwadau ynghylch y cynigion. Bydd y sylwadau a dderbynnir yn cael eu defnyddio i ddylanwadu ar y dyluniad terfynol.
Gwybodaeth Prosiect
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.
Lleoliad
Postiwyd ar Gorffennaf 29, 2024