Mae’r Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio hwn yn rhan ffurfiol o’r broses cais cynllunio sy’n ofynnol yn unol â Rhan 1A o’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2016 (fel y’i diwygiwyd).  Mae’n ofynnol i ni gyhoeddi’r holl ddogfennau a fydd yn rhan o’n cais cynllunio mewn fformat drafft fel bod rhanddeiliaid allweddol a’r gymuned leol yn cael y cyfle i gyflwyno sylwadau.

Mae llawer o ddogfennau ac mae llawer ohonynt yn hir.  I gael trosolwg, efallai fydd y canlynol yn arbennig o ddefnyddiol i chi:

Dogfennau Cynllunio

Gellir gweld dogfennau o gartref, neu ddefnyddio’r cyfrifiaduron mewn unrhyw hyb neu lyfrgell Cyngor Caerdydd.

Os oes angen dogfennau arnoch mewn ieithoedd neu fformatau eraill, cysylltwch â tremymor@caerdydd.gov.uk.

Cynlluniau safle

Mae’r cynlluniau hyn yn dangos lleoliad y bont a’r tir y bydd ei angen dros dro yn ystod y gwaith adeiladu.

Cynlluniau a gweddluniau eraill

Mae’r gyfres hon o gynlluniau yn dangos dyluniad pensaernïol y bont.

Datganiad Dylunio a Mynediad

Mae hwn yn dangos sut olwg fydd ar y bont arfaethedig ac yn esbonio sut mae’r dyluniad wedi’i ddatblygu.  Mae’n cynnwys cyfres o ddelweddau sy’n dangos sut olwg fydd ar y bont o wahanol onglau.

Datganiad Cynllunio

Mae hwn yn esbonio sut mae’r bont droed arfaethedig yn cydymffurfio â pholisi cynllunio ar lefel leol a chenedlaethol.

Crynodeb Annhechnegol o’r Datganiad Amgylcheddol

Mae hwn yn rhoi trosolwg lefel uchel o ganfyddiadau ein Hasesiad o’r Effaith Amgylcheddol. Fe’i hysgrifennir mewn iaith annhechnegol, felly mae’n rhoi cyflwyniad da.

Datganiad Amgylcheddol

Mae’r Datganiad Amgylcheddol yn nodi canlyniadau ein Hasesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn fanwl.

Mae’r ddogfen fawr hon yn cael ei darparu mewn adrannau ar wahân:

  • Cyflwyniad, y Safle a’r Ardal Gyfagos, y Datblygiad Arfaethedig, Rheoliadau AEG a’r dull o ymdrin â’r AEG
  • Ansawdd Aer
  • Hinsawdd
  • Ecoleg (Daearol) a Choedyddiaeth (gan gynnwys Asesiad o’r Effaith ar Goedyddiaeth, fel atodiad)
  • Ecoleg (Dyfrol)
  • Cyflwr y Tir a Phriddoedd
  • Iechyd
  • Amgylchedd Hanesyddol
  • Treflun a Gweledol
  • Trafnidiaeth
  • Adnoddau Dŵr a Risg Llifogydd (gan gynnwys Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd fel atodiad)
  • Effeithiau Cronnol
  • Atodiadau – darparu manylion ychwanegol yn ymwneud â’r asesiadau a gwybodaeth am sŵn tanddwr a dirgryniad.

Atodiadau

Adroddiad Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC)

Mae hyn yn ystyried effaith y cynigion ar Aber Afon Hafren, sy’n safle Ewropeaidd wedi’i ddynodi.  Mae’n dod i’r casgliad nad oes unrhyw effeithiau hirdymor niweidiol.

Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (CRhAA) Amlinellol

Mae hwn yn amlinellu’r camau a gymerir i sicrhau bod y gwaith o adeiladu’r bont yn cael ei reoli’n ofalus ac yn ystyriol.

Cynllun Tirwedd

Mae hwn yn dangos y cynigion ar gyfer tirlunio a phlannu.

Datganiad Seilwaith Gwyrdd

Mae hwn yn dangos sut mae seilwaith gwyrdd wedi cael ei ystyried yn y cynigion ac yn esbonio sut y bydd y bont yn helpu i gysylltu mannau gwyrdd yn yr ardal leol.

Adroddiad yr Ymgynghoriad

Mae hwn yn esbonio’r ymgynghoriad a gynhaliwyd hyd yn hyn. Mae’n dogfennu’r trafodaethau technegol a gynhaliwyd â rhanddeiliaid allweddol a chanfyddiadau ymgynghoriad cyhoeddus 2022.

Datganiad Trafnidiaeth